Pa mor oer a gwlyb bynnag y bydd yr hydref, gallwn wastad wneud y gorau o’i flasau tymhorol hyfryd.
Er bod gwreiddlysiau’n doreithiog yr adeg hon o’r flwyddyn, a chêl yn gwella ar ôl y rhew cyntaf, mae yna hefyd doreth o ffrwythau hydrefol ar gael.
Yn ogystal â hynny, gyda thymor y Nadolig a’i brysurdeb ar y gorwel, mae’r hydref yn cynnig y cyfle perffaith i bwyso a mesur a mwynhau’r blasau sydd ar gael ar garreg ein drws ar hyn o bryd.
Fel mae’n digwydd mae porc yn blasu’n hyfryd gyda ffrwythau a llysiau’r hydref, a gyda nifer o ffyrdd i’w goginio a’i fwynhau, mae’n gig blasus ar gyfer unrhyw achlysur, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.
Prydau Rhost Rhyfeddol
Does dim curo ar borc rhost gyda crofen frown euraidd a chrensiog, ac mae hyd yn oed yn well pan gaiff ei rannu gyda theulu a ffrindiau.
Felly, beth am wahodd pawb draw am ginio dydd Sul a gweini prydau penigamp fel ein bol porc wedi’i rostio’n araf gydag afal, mêl a sinamon neu ein bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp.
Ar gyfer bwyd bendigedig sy’n llawn blas yr hydref, rhowch gynnig ar ein hysgwydd porc wedi’i choginio’n araf mewn seidr, afalau a ffenigl, neu ein ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur Jamaica.
Dydd Gwener i Gyfeillion
Ddim yn mynd allan? Gwahoddwch ffrindiau draw am ‘tŷcawê’, a chreu bwrlwm o flasau cyffrous y byd yng nghysur eich cartref.
Yn dro ar glasur tecawê Tsieineaidd, mae ein asennau breision gyda sglein stowt a masarn yn sicr o blesio – byddan nhw’n sicr o hedfan oddi ar y plât! Neu, beth am asennau porc halen a phupur anhygoel i’w blasu wrth wylio ffilm?
Mwynhewch flasau Japan gyda’n ramen ysgwydd porc. Gellir gwneud ysgwydd porc wedi’i choginio’n araf mewn cawl blasus yn y popty araf neu ar yr hob. Fel arall, gwnewch argraff ar eich ffrindiau gyda’n cyri porc katsu llyfn, euraidd gyda sbeisys mwyn.
Chwilio am fwyd cynnes a blasus i’ch twymo ar noson oer o hydref? Beth am bowlen o gawl Thai gyda phorc sy’n bersawrus, yn llawn porc a llysiau llachar?
Porc un potyn perffaith
Yn hawdd i’w gwneud, yn cysuro, ac yn wych i’w rhannu gyda theulu a ffrindiau, mae prydau un potyn yn wych.
Allwn ni ddim meddwl am amser gwell o’r flwyddyn i fwynhau ein hotpot porc hyfryd. Yn llawn porc suddlon a blasau hydrefol afalau a gwreiddlysiau, mae’r hotpot hwn yn flasus gyda llysiau gwyrdd tymhorol wedi’u stemio.
Mae ein caserol porc, chorizo, ffa gwynion a bara crensiog yn hotpot gwych arall sy’n llawn daioni. Pryd sylweddol i lenwi’r bol.
I gael llwyth o flas, beth am roi cynnig ar ein pot porc paprica sy’n cynnwys porc dair ffordd. Mae twmplenni blasus ar ben y pryd swmpus hwn o ysgwydd/coes porc, porc sbeislyd a selsig tsili a chig moch.
Mae ein caserol porc blasus yr un mor arbennig. Gyda chyfuniad blasus o saws Swydd Gaerwrangon, paprica, mwstard a sudd oren, mae’r caserol hwn yn driw i’w enw. Mae’n wych wedi’i weini gyda rwdan, tatws a moron stwnsh a chymysgedd o lysiau tymhorol.
Os yw’r tywydd ychydig yn ddiflas, bydd ein tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren yn siŵr o godi calon. Porc blasus, cwscws, tomatos, gwygbys, ffrwythau a chnau, wedi’u coginio mewn blasau Morocaidd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd, mae’r pryd yma’n berffaith i’w rannu gyda theulu a ffrindiau.
Golwythion grêt a stêcs syfrdanol
Mae adeg hon y flwyddyn yn galw am brydau gyda blasau cynnes a melys, ac mae golwythion a stêcs porc yn ddewis blasus.
Mae ein golwythion porc wedi’u pobi mewn paprica mwg yn flasus wedi’u gweini â reis cymysg wedi’i stemio, saws wedi’i fygu a dail salad tymhorol, tra bod ein golwythion porc gyda chaws pob a sglodion tenau yn gwneud pryd canol wythnos ardderchog i’r teulu.
Gwnewch y gorau o flasau hydrefol swmpus gyda’n stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog. Ar y bwrdd mewn ugain munud, maen nhw’n bryd perffaith i ddau.
Trowch stêcs porc yn seren y sioe gyda’n cebabau porc sbeislyd a berwr y gerddi gyda relish ffrwythau’r hydref a bydd pawb wrth eu bodd. Bydd y plant a’r oedolion ar ben eu digon!
Gwnewch y gorau o’r hydref gyda phryd porc ar gyfer pob achlysur.
Am fwy o ryseitiau porc ac ysbrydoliaeth, ewch i: porcblasus.cymru