facebookPixel

Amodau a thelerau

Darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus. Os ydych yn defnyddio gwefan Cig Oen Cymru Hybu Cig Cymru yn www.porcblasus.cymru (“y wefan”) yna rydych yn cytuno i’r rheolau hyn.

Llywodraethir a dehonglir yr amodau a’r telerau hyn yn unol â chyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr, y bydd y ddau barti yn cydymffurfio â hi. Mae HCC yn cadw’r hawl i newid neu ddiweddaru’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd.

Cyffredinol

Mae’r wefan hon yn cynnig yr opsiwn i chi weld gwybodaeth am HCC. Os ydych yn dewis gweld yr wybodaeth hon, rydych yn derbyn bod HCC yn cyflenwi’r wybodaeth hon yn ôl eich cais unigol at ddibenion gwybodaeth.

Yn ymddangos ar wefan Porc Blasus

1. Er mwyn cael eich cynnwys ar wefan Porc Blasus, mae’n rhaid i chi fod yn gwerthu porc o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru. Bydd HCC yn cynnwys cynhyrchwyr a manwerthwyr ar wefan Porc Blasus os ydynt yn bodloni’r Meini Prawf canlynol:

  • Rwyf yn cadarnhau fy mod yn gwerthu cig o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru.
  • Rwyf yn deall dim ond mai cynnyrch cymwys (h.y. cynnyrch o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru) y gallaf ei gynnwys ar wefan Porc Blasus.
  • Rwyf yn deall mai dim ond cynnyrch cymwys y gallaf ei hyrwyddo fel Porc Blasus. Lle bydd busnes yn gwerthu cynnyrch nad yw’n gymwys ochr yn ochr â Porc Blasus ar ei wefan neu ei safle ei hun, cyfrifoldeb y manwerthwr yw sicrhau bod y cynnyrch wedi’i labelu’n glir.

Caiff busnesau eu derbyn ar y cynllun yn ôl disgresiwn. Mae HCC, fel ceidwad brand Porc Blasus, yn cadw’r hawl i wrthod derbyn busnesau ar y cynllun.

Aelodau cylchlythyr Porc Blasus

2. Fel rhan o’ch cofrestriad â chylchlythyr Porc Blasus, byddwch yn derbyn gwybodaeth a chynigion gan HCC Porc Blasus mewn perthynas â’i gynnyrch, yn y ffordd y gofynnoch amdani.

3. Mae HCC Porc Blasus yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost fel manylion gorfodol pan fyddwch yn ymuno â chylchlythyr Porc Blasus. Mae hyn er mwyn helpu i sicrhau y gallwn eich adnabod chi. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwn deilwra ein gohebiaeth i ddiwallu’ch anghenion ac mae hefyd yn golygu os ydych yn cysylltu â ni gydag ymholiadau am eich manylion cofrestru, mae’n bosib i ni eich adnabod chi, ymateb i’ch ymholiad neu ddiwygio’ch manylion i chi.

4. Mae’n bosib y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â chyrff allanol hefyd at ddibenion dadansoddi marchnata gan HCC (yn y fath achos, rhennir gwybodaeth at ddibenion paru yn unig a chedwir gwybodaeth a ddefnyddir yn anhysbys). Er mwyn manteisio ar unrhyw gynigion arbennig, efallai y bydd angen rhannu gwybodaeth â chyflenwyr allanol Porc Blasus.

5. Unwaith y byddwch wedi cofrestru i ymuno â chylchlythyr Porc Blasus, byddwch wedi gwirio’ch cyfeiriad e-bost (rydym yn defnyddio hwn fel dull adnabod ar eich cyfer). Ni fyddwn yn anfon unrhyw e-byst atoch os nad ydych wedi dewis hynny wrth gofrestru.

6. Rhaid i bob cyfrif gael ei gofrestru gyda chyfeiriad e-bost personol dilys rydych yn ei ddefnyddio’n rheolaidd fel y gall o leiaf e-byst am newidiadau neu wybodaeth bwysig gael eu hanfon atoch. Gallai cyfrifon a gofrestrir gyda chyfeiriad e-bost rhywun arall, neu gyfeiriad e-bost dros dro, gael eu cau heb rybudd. Efallai bydd angen i ddefnyddwyr ailddilysu eu cyfrif os ydym yn credu eu bod wedi bod yn defnyddio cyfeiriad e-bost annilys. Rydym yn cadw’r hawl i gau cyfrifon os gwelir bod unrhyw ddefnyddiwr yn defnyddio IP dirprwyol (cyfeiriadau protocol rhyngrwyd) er mwyn ceisio cuddio’r ffaith eu bod yn defnyddio mwy nag un cyfrif cylchlythyr Porc Blasus neu os yw defnyddiwr yn tarfu ar unrhyw un o’n gwasanaethau mewn unrhyw ffordd.

Eithriadau atebolrwydd

7. Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y data ar y wefan yn gywir ac i gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cael gwybod amdanynt. Nid ydym yn monitro, yn gwirio nac yn arnodi gwybodaeth a gyflwynir gan drydydd partïon i’w chyhoeddi ar y wefan a dylech fod yn ymwybodol y gallai gwybodaeth o’r fath fod yn anghywir, yn anghyflawn neu’n hen. I’r graddau a ganiateir gan gyfraith berthnasol, rydym yn gwadu pob gwarantiad a sylw (boed wedi’i fynegi neu ei awgrymu) o ran cywirdeb unrhyw wybodaeth ar y wefan. Nid ydym yn gwarantu na fydd unrhyw ddiffygion ar y wefan ac nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wallau neu hepgoriadau.

8. Ni fyddwn ni nac unrhyw un o’n cysylltiedigion yn atebol am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ôl-ddilynol (gan gynnwys hawliadau, colli elw, refeniw neu ewyllys da trydydd partïon) rydych chi neu unrhyw drydydd parti yn ei ddioddef mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan. Ni ddylid dehongli unrhyw beth yn yr amodau a’r telerau hyn fel ymgais i gyfyngu neu eithrio ein hatebolrwydd am unrhyw anaf personol o ganlyniad i’n hesgeulustod neu fater arall y byddai’n anghyfreithiol i ni ei eithrio.

Mynediad i’r wefan a’r cynnwys

9. Byddwn yn ymdrechu i ganiatáu mynediad di-dor i’r wefan ond gall mynediad i’r wefan gael ei atal, ei gyfyngu neu ei derfynu ar unrhyw adeg.

10. O ystyried natur trosglwyddo data’n electronig dros y rhyngrwyd a nifer y defnyddwyr, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anallu i gyrchu’r wefan.

11. Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd na fydd firysau ar y wefan neu unrhyw beth arall a allai gael effaith niweidiol ar unrhyw dechnoleg.

Eiddo deallusol

12. Mae hawlfraint y deunydd ar y wefan hon ynghyd â dyluniad, testun a graffeg y wefan, eu detholiad a’u trefniad, yn eiddo i Hybu Cig Cymru. Cedwir pob hawl. Gall defnyddwyr lawrlwytho deunyddiau at eu defnydd personol, anfasnachol eu hunain, ar yr amod y cedwir yr holl hawlfraint a hysbysiadau perchnogol eraill. Gwaherddir copïo, ailddosbarthu, ail-bostio, cyhoeddi, addasu neu newid unrhyw ran o’r wefan hon at unrhyw ddibenion cyhoeddus neu fasnachol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Hybu Cig Cymru.

Diogelu data

13. Os ydych yn cyflwyno data i’w ddangos ar y wefan, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y data’n gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol a dylech ddiweddaru’r data hwnnw pan fo angen.

14. Os ydych yn cyflwyno data i’w ddangos ar y wefan, rydych yn gyfrifol am sicrhau na chaiff unrhyw ddata ei uwchlwytho neu ei gyflwyno os yw’n anwir, yn ddifrïol, yn anweddus neu’n sarhaus, neu fel arall yn annymunol neu sy’n torri unrhyw ddeddfau perthnasol neu hawliau trydydd partïon. Rydych yn gwarantu eich bod wedi cymryd yr holl ragofalon rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw ddata rydych yn ei uwchlwytho neu’n ei gyflwyno fel arall i’r wefan yn cynnwys firysau neu unrhyw beth arall a allai gael effaith halogedig neu ddinistriol ar unrhyw ran o’r wefan neu dechnoleg arall.

Cyffredinol

15. Gallai’r wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid yw HCC yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan arall nac am adolygiad parhaus gwefannau eraill. Nid yw cynnwys dolen i wefannau o’r fath yn awgrymu bod HCC yn eu hardystio. Os ydych yn dilyn dolenni i unrhyw wefannau eraill, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Nid yw HCC yn cynrychioli nac yn gwarantu y bydd y wefan hon, neu unrhyw wefan arall y mae ein gwefan ni’n gysylltiedig â hi, yn hygyrch neu ar gael yn brydlon neu y bydd mynediad yn ddi-dor neu’n ddi-wall. Mae HCC yn cadw’r hawl i newid neu ddileu deunydd o’r wefan ar unrhyw adeg. Gall HCC, ar unrhyw adeg a heb rybudd, adolygu’r amodau drwy ddiweddaru’r cofnod hwn. Rydych yn rhwym i unrhyw adolygiadau o’r fath a dylech, felly, ymweld â’r dudalen hon o dro i dro i adolygu’r Amodau a’r Telerau cyfredol.

16. Gall HCC derfynu eich mynediad i’r wefan. Bydd pob ymwadiad, digollediad ac eithriad yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn parhau’n berthnasol ar ôl terfynu’r cytundeb rhyngom ni am unrhyw reswm.

17. Os canfyddir bod unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, pennir bod y ddarpariaeth wedi’i thorri ac ni effeithir ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau sy’n weddill yn yr Amodau a’r Telerau hyn.

Cwcis

18. Mae’r wefan yn defnyddio nifer o “gwcis”, sef ffeiliau testun bach a roddir ar eich cyfrifiadur gyda’ch caniatâd, i’n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio’r wefan, i storio’ch dewisiadau (lle cânt eu mynegi), ac i ddarparu gwasanaethau a chynigion rydym yn meddwl fyddai’n fwy addas i’ch anghenion neu a fyddai o ddiddordeb i chi. Gallem hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ein rhan. Gallwch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, os ydych yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn.

19. Mae’r wefan hon hefyd yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi ar y we a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i Google a’i storio ganddo ar ei weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso’ch defnydd o’r wefan gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefan ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd hon ac at y dibenion a nodwyd uchod.

Share This