facebookPixel

Cael yr hyn sydd ei angen arnon ni… mewn ffordd naturiol

Porc Blasus logo

Mae pethau’n newid. Mae hyd yn oed anghenion maethol ein cyrff yn amrywio ac yn newid yn ystod ein bywydau, ac mae’n hanfodol ein bod yn gofalu am ein cyrff er mwyn bod yn iach ac yn hapus o blentyndod hyd at gyfnodau hwyrach ein bywydau.

A oes un bwyd y dylen ni ei fwyta sy’n rhoi ein holl anghenion dietegol i ni? Yn syml, yr ateb yw ‘nag oes’; does dim un bwyd unigol sy’n cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnom i fod yn iach. Y ffordd hawsaf i fyw’n iach yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd.

Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi ei goginio bob wythnos fod yn greiddiol i ddiet iach a chytbwys.

Mae cig coch fel porc yn llawn maetholion, sy’n golygu ei fod yn cynnwys amrywiaeth eang o fitaminau a mwynau hanfodol mewn cyfran gymharol fach o fwyd.

 

Scientists recommend Infographic

Mae porc yn llawn o brotein naturiol ac mae’n cynnwys asidau amino hanfodol. Mae protein yn hanfodol ar gyfer twf ac atgyweirio’r corff a chynnal iechyd da – mae’n eich helpu i wella ar ôl ymarfer corff ac i deimlo’n llawn egni, yn ogystal ag adeiladu a chynnal màs cyhyrau.

Mae’r fitaminau B a geir mewn porc, gan gynnwys B3 (Nïasin), B6 ​​a B12, yn cadw’r system nerfol yn iach ac mae’n gysylltiedig ag egni ac iechyd da yn gyffredinol. Dim ond mewn bwydydd o darddiad anifeiliaid y mae fitamin B12 i’w gael yn naturiol.

Mae porc hefyd yn llawer is mewn braster nag y byddech chi’n ei feddwl. Oeddech chi’n gwybod y gall darnau o borc heb lawer o fraster, fel stêc lwyn heb esgyrn, gynnwys cyn lleied â 4% o fraster?

Mae porc yn cynnwys yr holl bethau da naturiol hyn:

  • Haearn, sy’n helpu i gynhyrchu celloedd coch y gwaed.
  • Protein, sy’n hanfodol ar gyfer tyfu ac adfer.
  • Sinc, sy’n cadw ein system imiwnedd yn iach.
  • Thiamin neu Fitamin B1, sydd ei angen i ryddhau egni o garbohydradau’n barhaus ac i gadw’r system nerfol yn iach. Nid yw Thiamin yn cael ei gadw yn y corff gan ei fod yn fitamin sy’n hydawdd mewn dŵr ac felly mae angen ei ailgyflenwi’n rheolaidd.
  • Ribofflafin neu Fitamin B2, sydd ei angen i’r corff dyfu a chadw’ch croen, llygaid a system nerfol yn iach. Mae hefyd yn helpu’r corff i ryddhau egni o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
  • Nïasin neu Fitamin B3, sy’n ein helpu i ddefnyddio egni bwyd – sy’n gysylltiedig ag egni a lefelau egni – ac yn cadw’r system nerfol a’r croen yn iach.
  • Fitamin B6, sy’n chwarae rhan bwysig wrth ffurfio haemoglobin yn y gwaed sy’n cludo ocsigen o gwmpas y corff. Mae hefyd yn galluogi’r corff i ddefnyddio a storio egni o brotein a charbohydradau yn ein bwyd.
  • Fitamin B12, sy’n helpu i wneud celloedd coch y gwaed, cynnal system nerfol iach a rhyddhau egni o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
  • Seleniwm, sy’n cynnwys priodweddau gwrthocsidydd, cefnogi ein system imiwnedd ac yn helpu i atal difrod i gelloedd a meinweoedd.

Felly os ydych chi’n treulio amser a gwneud ymdrech i fyw bywyd iach ac egnïol, gan wneud ymarfer corff yn rheolaidd a gofalu amdanoch eich hun, onid yw’n dda gwybod bod eich bwyd yn tynnu ei bwysau hefyd?

Share This