facebookPixel

Polisi preifatrwydd

Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales sy’n berchen ar Porc Blasus. Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales yw’r Rheolwr Data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych yn ei roi i ni. Dyma ein manylion cyswllt:

Hybu Cig Cymru
Tŷ Rheidol
Parc Merlin
Aberystwyth
SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Er mwyn darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt, neu at ddibenion dadansoddi marchnata, bydd Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (neu broseswyr data trydydd parti sy’n gweithredu ar ein rhan) yn casglu’r wybodaeth rydych wedi dewis ei rhoi i ni yn uniongyrchol drwy eich manylion cofrestru.

  • Yn uniongyrchol gennych chi gan ddefnyddio eich manylion cofrestru.
  • Yn anuniongyrchol gennych gan ddefnyddio gwybodaeth o’ch ymweliad i’r wefan hon (gweler isod am fwy o wybodaeth ynglŷn â cookies).

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau neu’r wybodaeth rydych chi eu hangen i weinyddu’ch perthynas â ni.

Diogelu eich gwybodaeth

Rydyn ni yn Hybu Cig Cymru yn addo diogelu eich preifatrwydd drwy’r Polisi Preifatrwydd hwn a’ch hawliau chi o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae’r polisi hwn yn egluro pam rydyn ni’n gofyn am wybodaeth, sut y gallwch chi roi neu wrthod rhoi caniatâd, am ba wybodaeth rydyn ni’n gofyn, a phwy arall allai gyrchu’r wybodaeth.

Yr unig wybodaeth bersonol fydd gennyn ni yw’r hyn sydd wedi cael ei roi i ni’n wirfoddol gennych chi neu sydd ar gael yn gyhoeddus. Gallwch newid eich manylion, gan gynnwys optio i mewn ac optio allan o amrywiol wasanaethau, drwy ein e-bostio ar info@hybucig.cymru.

Pam ydyn ni’n gofyn am wybodaeth bersonol?

Y prif reswm rydym yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol, yn ei phrosesu a’i storio yw er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau rydych yn gofyn amdanynt. Gallai’r gwasanaethau hyn gynnwys gwybodaeth a diweddariadau.

Bydd Hybu Cig Cymru neu ein darparwyr gwasanaeth yn casglu a storio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer pwrpasau a allai gynnwys:

  • Darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt yn uniongyrchol
  • Os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd, cysylltu â chi pan fo newyddion i’w rannu am ein cynnyrch a’n gwasanaethau
  • Galluogi trydydd partïon i brosesu a rheoli eich gwybodaeth er mwyn ein galluogi ni i ddarparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt
  • Rhesymau diogelwch, gweinyddol a chyfreithiol
  • Diweddaru a chyfoethogi’r wefan a’r gwasanaethau a ddarperir
  • Efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon allanol er mwyn creu dadansoddiad marchnata ar gyfer HCC ac os digwydd hynny dim ond ar gyfer pwrpasau paru y caiff yr wybodaeth ei rhannu, a bydd y canlyniadau’n ddienw.

Pan fo’r wefan yn gofyn am wybodaeth bersonol, byddwn ni’n dweud wrthoch chi sut rydyn ni’n bwriadu defnyddio’r wybodaeth a byddwn ni’n gofyn i chi am eich caniatâd penodol. Heblaw am yr hyn a nodir uchod, ni fyddwn yn datgelu, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd barti os nad ydych chi wedi cydsynio i hyn. Os ydych chi’n cydsynio ond wedyn yn newid eich meddwl, gallwch gysylltu â ni a byddwn ni’n peidio unrhyw weithgaredd o’r fath.

Gallwch chi optio i mewn i dderbyn negeseuon marchnata wrth gofrestru ar y wefan a gallwch optio allan unrhyw bryd. Unwaith i chi optio i mewn, byddwn ni’n darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt drwy e-bost. Os hoffech optio allan o dderbyn negeseuon marchnata, gadewch inni wybod ar info@hybucig.cymru.

Eich caniatâd

Drwy gofrestru â Porc Blasus, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r wybodaeth rydych chi’n ei chyflwyno’n wirfoddol gael ei chasglu a’i defnyddio, ar gyfer y pwrpasau a ddisgrifir uchod.

Dim ond yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol y caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei defnyddio.

Mae ein holl negeseuon e-bost yn cynnwys opsiwn dad-danysgrifio fel y gallwch optio allan o negeseuon e-bost yn y dyfodol os hoffech wneud hynny.

Eich hawliau

Mae’r hawliau canlynol gennych:

  • Yr hawl i ofyn inni am gopïau o’r wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanoch chi unrhyw bryd.
  • Yr hawl i ofyn inni ddiweddaru neu gywiro gwybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanoch chi sy’n anghywir neu sydd wedi dyddio.
  • Yr hawl i optio allan o negeseuon marchnata y gallwn ni (neu unrhyw drydydd parti rydyn ni wedi datgelu eich gwybodaeth bersonol wrthynt gyda’ch caniatâd chi) eu hanfon atoch
  • Yr hawl i ddileu eich data personol
  • Yr hawl i wneud cwyn

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon (gan gynnwys pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i ni drwy feysydd mewnbynnu data ar y wefan), efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol gennych:

  • Eich enw
  • Eich côd post
  • Eich cyfeiriad e-bost

Er mwyn darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt, neu at ddibenion dadansoddi marchnata, bydd Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (neu broseswyr data trydydd parti sy’n gweithredu ar ein rhan) yn casglu’r wybodaeth rydych wedi dewis ei rhoi i ni yn uniongyrchol drwy eich manylion cofrestru.

  • Yn uniongyrchol gennych chi gan ddefnyddio eich manylion cofrestru.
  • Yn anuniongyrchol gennych gan ddefnyddio gwybodaeth o’ch ymweliad i’r wefan hon (gweler isod am fwy o wybodaeth ynglŷn â cookies).

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau neu’r wybodaeth rydych chi eu hangen i weinyddu’ch perthynas â ni.

Sut ydym yn cadw eich data’n ddiogel?

Bydd Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales yn cymryd camau priodol i gadw gwybodaeth bersonol mewn amgylchedd diogel i osgoi defnydd anawdurdodedig. Mae ein proseswyr dan rwymedigaeth contract i wneud yr un peth.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn dilyn dolenni ar y safle?

Os ydych yn dilyn dolenni i wefannau eraill o wefan Porc Blasus, bydd eich data yn destun polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny. Dylech gyfeirio at y polisïau hyn cyn darparu’ch data.

Sut mae HCC yn defnyddio cwcis?

Mae’r wefan yn defnyddio nifer o “gwcis”, sef ffeiliau testun bach a roddir ar eich cyfrifiadur gyda’ch caniatâd, i’n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio’r wefan, i storio’ch dewisiadau (lle cânt eu mynegi), ac i ddarparu gwasanaethau a chynigion rydym yn meddwl fyddai’n fwy addas i’ch anghenion neu a fyddai o ddiddordeb i chi.

Gallem hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ein rhan. Gallwch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, os ydych yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn.

Mae’r wefan hon hefyd yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi ar y we a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i Google a’i storio ganddo ar ei weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso eich defnydd o’r wefan gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefan ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd hon ac at y dibenion a nodwyd uchod.

Pwy arall allai weld fy ngwybodaeth bersonol?

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth lle bo’n ofynnol gwneud hynny yn ôl deddfwriaeth berthnasol neu orchmynion llys.

Os bydd cwmni arall yn caffael HCC, efallai yr ystyrir gwybodaeth am gwsmeriaid fel ased busnes trosglwyddadwy ac, o ganlyniad, bydd yn cael ei drosglwyddo i’r perchnogion newydd.

Beth os yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn newid?

Gallai Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales ddiweddaru’r polisi hwn ar unrhyw adeg felly gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Share This