facebookPixel

Pa mor bell yw’ch fforc o’n porc?

Darganfyddwch y cynhyrchwyr porc anhygoel sydd ar eich carreg ddrws!

Mae Porc Blasus o Gymru yn arbennig gan ei fod yn cael ei gynhyrchu gan ffermwyr sy’n poeni am les anifeiliaid a chynaliadwyedd amgylcheddol ar raddfa fechan.

Mae bridwyr moch Cymreig yn defnyddio dulliau traddodiadol o ffermio awyr agored, sy’n caniatáu i’r moch grwydro’n rhydd ac ymddwyn yn naturiol.

Dewch i ddathlu ein cynhyrchwyr a manwerthwyr porc crefftus gwych gyda ni!

Cliciwch isod i ddarllen ein cylchgrawn o 2022…

Porc gyozas
Porc shoulder ramen
Porc Katsu Curry
PORC Social Media - MAP

Pam a ble y gallwch brynu

Yng Nghymru, rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol. Mae ein ffermydd ar raddfa fach ac yn arbenigol. Maen nhw’n llawn traddodiad sy’n dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd, wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth o ffermwr. Mae ein tirwedd yn gyfoethog ac yn gryf ei hunaniaeth. Yn gyffredinol, mae ein moch yn cael eu magu mewn buchesi bach, ac mae gan ein ffermwyr werthoedd gweledigaethol ond traddodiadol.

Paratowch i flasu Porc Blasus anhygoel o Gymru ac ewch i ddarganfod pa mor bell yw’ch fforc o’n porc!

Arbenigwyr yn eu maes

Gydag angerdd am borc, a sylw craff i fanylion, mae ein cynhyrchwyr yn creu cynnyrch eithriadol. Nid dim ond porc maen nhw’n ei gynhyrchu, maen nhw’n ei fyw a’i anadlu, ac maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddod â’r cynnyrch gorau y gallan nhw i chi.

Porc pert i greu argraff arbennig

Edrych am brydau porc blasus i’w coginio, a fyddai hefyd edrych yn wych ar Instagram?

Ddwy flynedd yn ôl, ar gyfer Wythnos Porc o Gymru, fe ymunodd pedwar blogiwr bwyd o Gymru yn y parti porc a rhannu prydau Porc Blasus unigryw gyda ni!

Cymerwch olwg ar eu ryseitiau isod…

Fideos diweddaraf ryseitiau Porc Blasus

Rydyn ni wastad yn creu ryseitiau blasus a chyffrous sy’n dangos y gwahanol doriadau o borc sydd ar gael a fydd, gobeithio, yn eich ysbrydoli chi i goginio a gwneud y gorau o’r cig gwych a hyblyg hwn.

Gwyliwch rai o’n fideos diweddaraf o ryseitiau, neu ewch draw i’n tudalen ryseitiau am hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth.

Y selsig gorau yng Nghymru

Aethom ati am y pumed tro yn 2023 i ddod o hyd i’r selsig gorau oedd gan Gymru i’w gynnig gyda’n cystadleuaeth Cyflwynwch Eich Selsig Gorau.

Anfonwyd selsig i mewn o bob cwr o Gymru gan ddefnyddio gwahanol sbeisys, perlysiau a blasau gan arddangos y sgil a’r creadigrwydd y mae’r diwydiant yng Nghymru yn cael ei adnabod amdano.

Dim ond tri cynhyrchydd gyrhaeddod y rhestr fer, a gallwch wylio sut aeth y rownd derfynol yn y Sioe Frenhinol drwy wylio yma…

Y bartneriaeth berffaith

Nôl yn 2022, fe wnaethon ni a Sam a Shauna (sy’n enwog am Hang Fire a Big Cook-Out) a’r arwr rygbi Scott Quinnell ddod ynghyd ar gyfer dosbarth meistr Porc Blasus unigryw ar fideo.

Tomahawks porc BBQ oedd pryd arbennig y dydd, wedi’u gweini â salsa verde India’r Gorllewin Sam a Shauna sy’n tynnu dŵr o’r dannedd a stêcs tatws melys wedi’u grilio.

Sut wnaeth Scott daclo’r her goginio hon?

A fydd e’n pasio fel pro porc neu a fydd ei ym-gais yn methu…?

Pam Porc Blasus?

Share This