facebookPixel

Golwyth porc tomahawk gyda salad perlysiau nam tok gan The Hangry Bear

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 golwyth porc tomahawk, y croen wedi’i dynnu a’r braster wedi’i grafu

Ar gyfer y marinâd:

  • 2 lwy fwrdd saws soi Thai golau
  • 1 llwy fwrdd saws pysgod
  • 1 llwy de siwgr mân

Ar gyfer y salad:

  • llond llaw o goriander
  • llond llaw fach o ddail mintys
  • 4 deilen leim kaffir ffres neu wedi’u rhewi, wedi’u torri’n stribedi tenau iawn
  • 2 goesyn lemonwellt (yr haenen allanol galed wedi’i thynnu), wedi’u sleisio’n fân
  • 2 winwnsyn bach, wedi’u sleisio’n fân
  • 3 shibwnsyn Thai neu shibwns bach crwn, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 llwy de powdr reis wedi’i dostio (gweler cam 1 y dull)
  • 3 tsili sych cyfan Thai, (i addurno)

Ar gyfer dresin y salad:

  • sudd 3 leim
  • 2 lwy de siwgr palmwydd neu siwgr brown meddal
  • 4 llwy fwrdd saws pysgod Thai
  • 3 llwy fwrdd dŵr
  • 6 tsili sych cyfan Thai (gweler cam 2 y dull)

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a @bradleyhangrybear – sef y blogiwr bwyd o dde Cymru, Bradley – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Bradley yn ei ddweud am ei rysáit:

“Rydw i wedi ychwanegu’r salad perlysiau yma o ogledd-ddwyrain Gwlad Thai at olwyth porc tomahawk trawiadol ar yr asgwrn, sydd â’r fantais ychwanegol o’r bol porc brith ynghlwm (os gofynnwch i’ch cigydd am y toriad hwn, bydd yn gwybod yn union beth rydych chi’n ei olygu).

“Dyma bryd sylweddol sy’n wych i’w rannu gyda theulu a ffrindiau. Mae’r golwyth porc brasterog, o’i garameleiddio, yn gwrthsefyll blasau tanbaid a chryf y salad perlysiau ac mae’n well byth wedi’i grilio ar y barbeciw.”



  1. Yn gyntaf, paratowch eich powdr reis wedi’i dostio trwy sych-ffrio dwy lwy fwrdd o reis gludiog amrwd mewn padell ganolig-boeth nes ei fod yn frown euraidd (symudwch y sosban yn aml i atal y reis rhag llosgi). Os na allwch ddod o hyd i reis gludiog, bydd reis jasmin heb ei goginio hefyd yn addas. Gadewch i oeri cyn malu’r reis mewn pestl a morter nes i chi gael powdr bras, yna ei roi o’r neilltu.
  2. Nesaf, gwnewch y powdwr tsili sych ar gyfer y dresin. Sych-ffriwch chwe tsili Thai sych mewn padell ganolig-boeth nes eu bod yn dywyll ac wedi’u tostio. Gadewch nhw i oeri cyn eu malu mewn pestl a morter nes i chi gael powdr bras, yna rhowch o’r neilltu.
  3. Cyfunwch gynhwysion y marinâd a gorchuddio’ch golwyth porc i gyd. Gadewch hwn i farinadu tra byddwch chi’n paratoi gweddill y pryd.
  4. Rhowch holl gynhwysion y salad, ag eithrio’r tsilis cyfan, mewn powlen a chymysgu’n dda.
  5. Gwnewch y dresin trwy roi’r holl gynhwysion mewn powlen a’u troi i doddi’r siwgr. Blaswch y dresin ac addaswch y blasau yn ôl eich dant – mae’r powdr tsili yn danllyd felly ychwanegwch gyn lleied neu gymaint ag y dymunwch (rwy’n rhoi ysgeintiad mawr). Dylai’r dresin fod yn sbeislyd, yn sur ac yn hallt gydag ychydig o felyster. Rhowch hwn o’r neilltu nes eich bod yn barod i roi’r dresin ar y salad.
  6. Nawr coginiwch y golwyth porc. Ffriwch y golwyth am ryw bum munud yr ochr nes ei fod wedi’i olosgi’n braf, yna treuliwch ychydig o amser yn coginio’r braster ar ben y golwyth nes ei fod wedi toddi’n braf ac wedi carameleiddio. Unwaith y bydd wedi’i goginio, gadewch iddo orffwys am ychydig funudau ar blât cynnes, a’i sesno â phupur.
  7. Nawr cyflwynwch y cyfan. Gorffennwch y salad trwy ei droi a throsi gyda’r dresin nes ei fod wedi’i orchuddio’n dda. Torrwch eich golwyth a gweinwch lond llaw fawr o’r salad ar yr ochr, gan ysgeintio mwy o’r powdr reis wedi’i dostio a’i addurno â’r tsilis cyfan. Ychwanegwch belen o reis gludiog ac rydych chi’n barod i’w fwynhau.
Share This