facebookPixel

Porc tro-ffrio gyda basil sanctaidd gan The Hangry Bear

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 300g briwgig porc
  • 5 ewin garlleg
  • 1-4 tsili llygad aderyn (addaswch y nifer i’r lefel o sbeis sydd at eich dant)
  • 1 shibwnsyn bach
  • 3 llwy fwrdd olew llysiau
  • 100g ffa gwyrdd, wedi’u torri’n ddarnau 1cm
  • 2 lwy fwrdd saws wystrys
  • 1 llwy fwrdd saws soi golau
  • 1½ llwy fwrdd Kecap Manis (saws soi melys)
  • 1 llwy fwrdd saws pysgod
  • 1 llwy fwrdd siwgr palmwydd neu siwgr brown
  • 2-4 llwy fwrdd dŵr
  • 1 llond llaw o fasil sanctaidd ffres (neu basil Thai), eu coesau wedi eu tynnu
  • pupur a halen

I weini ac addurno:

  • reis jasmin wedi ei goginio
  • 2 wy
  • olew llysiau
  • leim ffres
  • tsili ffres
  • coriander
  • basil sanctaidd neu basil Thai, eu coesau wedi eu tynnu

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a @bradleyhangrybear – sef y blogiwr bwyd o dde Cymru Bradley wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Bradley yn ei ddweud am ei rysáit:

“Mae prydau tro-ffrio yn gyflym ac yn hawdd, ond os ydych chi fel arfer yn defnyddio saws o becyn peidiwch â bod ofn gwneud un o’r dechrau’n deg – mae’r canlyniad yn llawer mwy persawrus a gwerth chweil ac nid yw’n gymaint o ymdrech â hynny. Mae’r rysáit hon yn seiliedig ar bryd stryd clasurol o wlad Thai, pad krapow moo, sy’n golygu porc basil sanctaidd wedi’i dro-ffrio. Mae’r blasau sbeislyd sawrus yn gwneud y pryd yn un cysurlon a’r ffordd orau o’i weini yw gydag wy wedi ffrio, creisionllyd ar ei ben.”



  1. Gan ddefnyddio pestl a mortar neu gymysgydd, gwnewch bast gyda’r tsilis, y garlleg, y shibwnsyn a phinsiad o halen môr.
  2. Cynheswch yr olew mewn wok nes ei fod yn boeth a ffriwch y past garlleg tsili am ychydig eiliadau nes ei fod yn bersawrus. Gofalwch rhag llosgi’r garlleg neu bydd yn troi’n chwerw.
  3. Ychwanegwch y briwgig porc a’i dro-ffrio yn yr olew a’r past tsili garlleg nes ei fod wedi coginio drwyddo. Yna ychwanegwch y ffa gwyrdd.
  4. Ychwanegwch y saws wystrys, y saws pysgod, y soi, y kecap manis a’r siwgr. Trowch a ffriwch nes ei fod wedi tewychu ac yn berwi, yna ychwanegwch y dŵr. Blaswch y pryd ac addaswch y blasau at eich dant: dylai’r pryd fod yn sbeislyd, yn felys ac yn hallt. Ychwanegwch bupur gan fod y saws eisoes yn cynnwys halen.
  5. Ychwanegwch y basil sanctaidd neu’r basil Thai a diffoddwch y gwres, gan ganiatáu i’r dail wywo a chymysgwch yn dda.
  6. Gweinwch dros reis jasmin poeth gydag wy wedi’i ffrio’n grimp ar y top, joch o sudd leim a pherlysiau ychwanegol i addurno.
Share This