facebookPixel

Porc, sinsir a sibols wedi’u tro-ffrio

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 225g lwyn porc heb lawer o fraster, wedi’i dorri i stribedi tenau (gallwch hefyd ddefnyddio golwyth o’r goes neu ffiled)
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 2cm sinsir, wedi’i blicio a’i sleisio’n fân
  • 1 clôf garlleg, wedi’i falu
  • 6 sibolsyn, wedi’u trimio a’u sleisio
  • 50g india corn
  • 50g ffa Ffrengig, wedi’u trimio a’u sleisio
  • 227g tun o ddarnau pinafal, wedi’u draenio
  • 4 llwy fwrdd saws wystrys

Dull



  1. Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew a choginiwch y stribedi porc am 3-4 munud nes eu bod wedi brownio.
  2. Ychwanegwch y garlleg, sinsir, sibols, india corn, ffa Ffrengig, a phinafal. Coginiwch am 1-2 munud.
  3. Ychwanegwch y saws wystrys a choginiwch am funud i’w gynhesu drwyddo.
  4. Gweiniwch gyda nwdls neu reis, mwy o lysiau wedi’u tro-ffrio os dymunwch a chraceri corgimychiaid.
Share This