facebookPixel

Bulgogi porc gan Llio Angharad

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 600g ysgwydd porc heb asgwrn, wedi ei thorri’n stribedi bach

Ar gyfer y marinâd:

  • 1 beren/gellygen (o dun gyda 2 lwy fwrdd o sudd peren)
  • 50g winwns
  • 2 lwy fwrdd gochujang (past tsili Coreaidd)
  • 1 llwy fwrdd gochugaru (haenau tsili Coreaidd)
  • 2 lwy fwrdd mêl (neu siwgr brown)
  • 2 lwy fwrdd saws soi
  • 1 llwy fwrdd gwin reis
  • 1 llwy de garlleg wedi ei fân-friwo
  • 1 llwy de sinsir wedi ei fân-friwo
  • ysgeintiad o bupur du mâl

Ar gyfer y reis:

  • 250g reis gwyn grawn hir
  • 500ml dŵr
  • 1 llwy fwrdd menyn
  • halen

I goginio a gweini:

  • olew coginio
  • 1 llwy fwrdd hadau sesame
  • 1 llwy fwrdd tsili coch, wedi ei dorri
  • 1 llwy fwrdd garlleg wedi ei ffrio
  • 1 llwy fwrdd shibwns
  • coriander
  • dail letys
  • kimchi

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r blogiwr bwyd sy’n byw yng Nghaerdydd @llioangharad wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Llio yn ei ddweud am ei rysáit:

“Ystyr llythrennol bulgogi yw ‘cig tân,’ ac mae’n bryd barbeciw melys a sawrus Coreaidd ble mae sleisys tenau o borc wedi ei fwydo’n cael eu grilio ar farbeciw, ond yn fy rysáit i dwi’n ffrio’r porc ar yr hob. Beth am drio rhywbeth newydd drwy ddefnyddio dail letys i sgwpio’r bulgogi – oherwydd mae hwn yn fwyd sy’n rhaid ei fwyta â bysedd blêr!”



  1. Rhowch yr holl farinâd bulgogi a’r porc i mewn i fag wedi’i selio a’i adael yn yr oergell am 45-60 munud.
  2. Ar ôl tua 30 munud, dechreuwch goginio’r reis. Mewn sosban dros wres canolig, berwch ddŵr. Ychwanegwch y reis, y menyn a phinsiad mawr o halen.
  3. Mudferwch y reis yna trowch y gwres yn is a’i goginio gyda’r caead ymlaen. Gadewch y reis heb ei gyffwrdd (peidiwch â’i droi) am tua 16-18 munud, neu nes bod yr holl ddŵr yn cael ei amsugno.
  4. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gadewch iddo eistedd am ychydig wedi’i orchuddio (pan fyddwch yn barod i’w weini gallwch ei fflyffio gyda fforc ar y plat).
  5. Unwaith y bydd y porc wedi mwydo, ychwanegwch olew at badell ffrio a’i ffrio ar wres canolig nes ei fod wedi’i goginio.
  6. I weini, ychwanegwch y reis a’r porc at eich powlen, yna ysgeintiwch gyda’r tsili coch, y coriander, y garlleg wedi’i ffrio, y shibwns a’r hadau sesame. Rhowch y kimchi a’r dail letys mewn dysgl fach ar wahân a bwytewch fel mae pobl Corea yn ei wneud, drwy ychwanegu ychydig o bopeth i’ch dail letys a’u defnyddio fel rhyw fath o tortilla wedi’u llenwi. Mwynhewch!
Share This