facebookPixel

Byns bao wedi’u llenwi â bol porc rhost, crofen, cêl crimp a dresin mwstard gan Bao Selecta

  • Amser paratoi 1 awr 30 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g – 1kg bol porc, heb ei grafu, o drwch cytbwys os yn bosibl
  • 200g halen carreg
  • 20ml finegr reis neu finegr seidr
  • 1 llwy de powdr pum sbeis Tsieineaidd
  • 1 llwy fwrdd powdr winwns
  • 1 llwy de pupur du
  • 2 lwy fwrdd siwgr gwyn
  • 1 llwy de halen bwrdd
  • 50ml gwin coginio Tsieineaidd (neu sieri neu win melys)

Ar gyfer y byns bao – cymysgedd sych:

  • 250g blawd bapao Tsieineaidd (neu flawd plaen), a pheth ychwanegol i ysgeintio
  • 1 llwy de halen
  • 20g siwgr mân
  • 8g powdr pobi

Ar gyfer y byns bao – cymysgedd wlyb:

  • 25ml llaeth
  • 110ml dŵr cynnes (nid poeth)
  • 15ml olew llysiau neu flodau’r haul
  • 4g burum sych sy’n gweithio’n gyflym

I addurno:

  • 80g cêl i wneud creision
  • 20ml olew
  • ½ llwy de haenau tsili
  • 60g moron, wedi eu plicio a’u torri’n fatsys neu eu gratio’n fras
  • 50g sinsir, wedi ei blicio a’i dorri’n fatsys neu ei ratio’n fras
  • 1 llwy fwrdd finegr seidr
  • 50g mayonnaise
  • 20g mwstard grawn cyflawn
  • 1 llwy de pupur du ffres
  • 1 llwy de halen
  • 1 llwy de siwgr

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r arbenigwr bwyd @baoselecta – sef Nick Spann o Gaerdydd, sy’n arbenigo mewn creu byns bao a bwyd stryd Taiwaneaidd – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Sefydlodd Nick Bao Selecta yn 2016 ar ôl gwneud byns bao i’w ffrindiau un noson, a roedden nhw’n boblogaidd tu hwnt. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, rhoddodd Nick a’i gariad Karolina eu tŷ ar osod a theithio dwyrain Asia am flwyddyn: priodon nhw yn Fietnam, dilyn cyrsiau coginio yn Laos a bwyta o bob stondin bao y gallen nhw ddod o hyd iddi yn Nhaiwan. Daethon nhw adref, gwario £200 ar offer ail-law a lansio yng Nghaerdydd.

Dyma beth mae Nick yn ei ddweud am ei rysáit:

“Os ydych chi’n brysur, gofynnwch i’ch archfarchnad Asiaidd leol am byns bao wedi’u rhewi, ond mae’n dipyn o hwyl gwneud rhai eich hun a byddwch yn dysgu sgil newydd fydd yn siŵr o gynyddu eich cylch ffrindiau! Mae’r rysáit hon yn gwneud 8 bynsen, ond mae’n werth gwneud dwbl y rysáit a rhewi’r rhai nad ydych yn eu defnyddio a’u haildwymo rywbryd eto.

“Mae bol porc rhost yn llenwad perffaith i bynsen bao, oherwydd mae porc yn gig Asiaidd nodweddiadol ac o’i goginio’n iawn mae suddlonedd y cig yn cyferbynnu â’r grofen grimp yn y byns bao fflwfflyd yn gyfuniad perffaith. Ychwanegwch dresin mwstard bach bywiog a chêl hallt crensiog ac mae ganddoch bryd perffaith.”



  1. O leiaf 4 awr (12 awr yn ddelfrydol) cyn coginio: defnyddiwch sgiwer metel neu gyllell â min i wneud rhai cannoedd o dyllau bach (tua 1mm o ddyfnder) yng nghroen y porc. Cymerwch ofal i dyllu’r croen yn unig: os byddwch yn tyllu drwodd i’r cnawd bydd hyn yn achosi problemau i chi wrth wneud eich crofen. Dylai 10 munud o dyllu wneud y tro!
  2. Trowch y bol porc ben i waered. Rhwbiwch y cnawd gyda phowdr winwns, powdr pum sbeis Tsieineaidd, siwgr, halen bwrdd a phupur. Sychwch y croen porc gan ei daro’n ysgafn gyda phapur cegin.
  3. Rhowch y gwin mewn cynhwysydd llydan yng ngwaelod yr oergell (digon mawr i ffitio’r porc ynddo) yna ychwanegwch y porc (ochr y cnawd i lawr) a gadael y croen i sychu am 4-12 awr, heb ei orchuddio os yw’n bosibl.
  4. I wneud y byns bao, cymysgwch y gymysgedd wlyb bao a’i adael nes bod y burum yn dechrau byrlymu.
  5. Hidlwch gynhwysion y gymysgedd sych bao mewn i bowlen gymysgu peiriant toes, ychwanegu’r gymysgedd wlyb yn araf a’i gymysgu am 2 funud ar y gosodiad canolig (neu 4 munud os yn cymysgu â llaw). Gwiriwch y toes: dylai deimlo’n llaith a thamp ond ni ddylai lynu at eich dwylo. Ychwanegwch fymryn mwy o flawd os yw’n ludiog ac ychydig o ddŵr os yw’n sych. Yna tylinwch am 2 funud ar uchel (neu 8 munud â llaw).
  6. Siapiwch y toes yn belen a’i rhoi mewn powlen fawr. Brwsiwch y toes yn ysgafn gydag olew a gorchuddiwch y bowlen gyda chlwtyn ychydig yn llaith. Gadewch i brofi mewn lle cynnes braf am awr neu ddwy, nes ei fod wedi dyblu o ran maint.
  7. Cynheswch y ffwrn i 130ºC / 110ºC ffan / Marc Nwy 1. Cymysgwch y cêl, yr olew a’r haenau tsili ar hambwrdd a’u rhostio yn y ffwrn am 5 munud, cymysgwch, yna rhostiwch am 5 munud arall. Tynnwch y cêl unwaith y bydd yn teimlo’n grimp, ond cyn iddo droi’n frown. Unwaith y bydd y cêl yn oer, rhowch ar bapur cegin a’i ysgeintio â halen at eich dant. Trowch y ffwrn i fyny i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
  8. Rhowch y porc ar ddalen fawr o ffoil (plygwch y ffoil yn hanner os yw’n denau). Gwnewch hambwrdd ffoil drwy blygu ochrau’r ffoil yn agos o gwmpas y porc, ychydig yn uwch na’r porc, tua 2cm.
  9. Sychwch groen y porc gyda phapur cegin ac yna brwsiwch 20ml o finegr ar y croen. Gwnewch grwst halen carreg ar ben y croen drwy bwyso’r halen i lawr yn ysgafn i gyddwyso’r crwst, a fydd yn helpu i dynnu mwy o leithder allan o’r croen. Rhowch y parsel porc ar hambwrdd pobi a’i rostio am 1¼ awr ger gwaelod y ffwrn.
  1. Nawr gwnewch y garnais i’r bao. Yn gyntaf cymysgwch y mayonnaise, mwstard a’r siwgwr, yna rhowch o’r neilltu. Yna cymysgwch y moron, sinsir, finegr a’r halen, ac yna ei roi o’r neilltu.
  1. Gwnewch 8 sgwâr bach allan o bapur pobi (7cm).
  2. Rhowch y toes bao ar arwyneb â blawd a’i rannu’n ddarnau 50g. Rholiwch bob darn yn belen, yna rholiwch i mewn i gylch – dylai’r toes fod yn 7-8mm o drwch. Brwsiwch y top gydag olew ac yna’i blygu drosodd; dylai edrych fel gwefusau hyfryd! Rhowch bob bynsen ar ddarn o bapur pobi ac yna mewn basged stemio fetel neu bambŵ. Unwaith y bydd yr holl fyns yn y stemiwr, gorchuddiwch nhw â’r caead a’u gadael i brofi am 30 munud. (Peidiwch â throi’r stemiwr ymlaen eto!).
  3. Tynnwch y porc o’r ffwrn a’i dynnu allan o’r parsel ffoil. Taflwch y crwst a brwsiwch yr holl halen a allwch chi i ffwrdd o ochrau a thop y cig.
  4. Trowch y ffwrn i fyny i osodiad gril canolig uchel (neu os nad oes gennych gril, gallwch droi’r ffwrn yn uchel iawn i 240ºC / 220ºC ffan / Marc Nwy 9).
  5. Dychwelwch y porc i’r ffwrn ar y silff waelod (tua 25cm i ffwrdd o’r gril os yn bosibl) am 30-40 munud neu nes ei fod wedi’i goginio ac yn euraid. AWGRYM: mae’n bwysig cael y grofen yn gytbwys i sicrhau coginio cyfartal, felly defnyddiwch lwy neu ddwy o dan y cig i’w gynnal os oes angen.
  6. Berwch y tegell, rhowch y dŵr mewn sosban, rhowch eich stemiwr ar ei ben a stemiwch eich byns ar ferw canolig. Waeth faint yw’r demtasiwn, peidiwch â chodi caead y stemiwr am tua 15 munud! Gall gostwng tymheredd yn sydyn ddifetha eich toes. Ar ôl y 15 munud, gadewch eich byns yn y stemiwr ar wres isel nes bod eu hangen arnoch chi.
  7. Tynnwch y porc allan o’r ffwrn a’i sleisio’n sleisys 1cm o drwch. Os na allwch dorri drwy’r grofen, ceisiwch droi’r cig wyneb i waered am ychydig a sleisio’r ffordd honno, ond peidiwch â gadael y cig wyneb i waered am gyfnod hir gan y bydd y lleithder a’r sudd yn meddalu’r grofen.
  8. I weini, llenwch y byns bao gyda’r porc, y garnais sinsir a moron a chymaint o gêl ag y gallwch ffitio i mewn! Ychwanegwch y mayonnaise mwstard ac ysgeintiwch bupur du ffres drostyn nhw.
Share This