facebookPixel

Ramen ysgwydd porc

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 4 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 1kg darn ysgwydd porc
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • pupur a halen

Ar gyfer y potes:

  • 2 litr stoc cyw iâr neu lysiau
  • 1 winwnsyn mawr, wedi ei dorri’n dalpiau
  • 2 foronen, wedi eu sleisio’n fras
  • 1 ffon seleri, wedi ei thorri’n fras
  • 3 ewin garlleg, wedi eu sleisio
  • 1 tsili coch, wedi ei haneru
  • darn 3cm o wraidd sinsir, wedi ei dorri’n fras
  • 4 llwy fwrdd saws soi golau â llai o halen

I orffen:

  • pecyn 250g nwdls ramen, wedi eu coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn
  • llysiau, fel: spigoglys neu pak choi, moron wedi eu torri’n fatsys tenau, shibwns wedi eu torri’n denau, egin ffa, egin bambŵ wedi eu torri, cennin
  • wy wedi ei ferwi’n lled feddal
  • hadau sesame, wedi eu tostio
  • tsili coch wedi ei sleisio’n denau neu haenau tsili

Dull

Mae’r ysgwydd porc yn cael ei choginio’n araf, gan greu potes hyfryd sy’n llawn blas – rysáit wych i bopty araf neu ar y stof. Mae’r cig brau’n cael ei rwygo a’i gyfuno â llysiau ffres dros nwdls chwilboeth.



  1. Sesnwch yr ysgwydd porc gyda halen a phupur. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a serio’r cig nes ei fod wedi ei frownio. Rhowch hi mewn sosban fawr neu os oes gennych chi un, popty araf.
  2. Ychwanegwch gynhwysion y potes, dod â’r cyfan i’r berw a mudferwi’n ysgafn am 3-4 awr mewn sosban (neu 6 awr ar wres isel mewn popty araf).
  3. Pan fo’r porc yn frau ac wedi ei goginio drwyddo, tynnwch allan o’r potes a gadewch iddo oeri ychydig cyn ei rwygo’n ddarnau llai. Yn union cyn gweini, ffriwch y darnau porc mewn llond llwy fwrdd o olew sesame i’w gwneud yn grimp.
  4. Hidlwch y potes er mwyn cael gwared ar unrhyw dalpiau (gellir rhoi stoc cyw iâr neu stoc llysiau ar ben yr hylif os oes angen).
  5. I weini, rhowch y nwdls wedi eu coginio mewn powlenni, tywallt y potes poeth a’r darnau porc i mewn cyn rhoi llysiau o’ch dewis ar eu pen. Yn olaf, ysgeintiwch gyda hadau sesame wedi eu tostio a tsili coch.
Share This