Cynheswch yr olew mewn sosban fawr anlynol, ychwanegwch y porc a’i frownio.
Ychwanegwch y past cyri Thai gwyrdd a’r llaeth cnau coco a’u mudferwi am 8-10 munud nes bod y cig yn frau.
Ychwanegwch y ffa a’r moron a choginiwch am funud neu ddwy.
Ychwanegwch weddill y llysiau a’r nwdls i’w cynhesu drwyddynt. Defnyddiwch lwy ddofn i roi’r cawl mewn powlenni a’i weini. Gweinwch gyda darnau o leim a dail coriander.