facebookPixel

Cyri cnau coco coch

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 225g o ffiled canol lwyn porc, wedi’i thorri’n sleisys tenau
  • 1 llwy de olew
  • 2 lwy fwrdd past cyri Thai coch
  • 200ml can o laeth cnau coco
  • 2 llwy de saws soi
  • 50g brocoli coesau meddal
  • 2 bylb pak choi wedi’u sleisio
  • 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio
  • 50g pysgnau hallt
  • 1 sudd a chroen un leim
  • dail coriander ffres i weini

Dull



  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr anlynol/wok, ychwanegwch y porc a’i frownio.
  2. Ychwanegwch y past cyri Thai coch a’i gymysgu’n dda i orchuddio’r cig.
  3. Ychwanegwch y llaeth cnau coco a’r soi a mudferwch y cyfan am 5-6 munud nes bod y cig yn frau.
  4. Ychwanegwch y brocoli a’r pak choi a choginiwch am funud neu ddwy.
  5. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a’u gweini gyda nwdls reis sydd wedi’u cymysgu â tsilis sydd wedi’u torri’n fân, shibwns a chroen leim.
Share This