facebookPixel

Porc sawrus a melys

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g stêcs lwyn neu stêcs ysgwydd porc, wedi eu torri’n giwbiau bychain

Ar gyfer y marinâd:

  • 1 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 2 lwy fwrdd finegr brag
  • pinsiad o ronynnau garlleg

Ar gyfer y tu allan crimp:

  • 2 wy, wedi eu curo
  • 100g blawd plaen
  • 50g blawd corn
  • pinsiad o bupur a halen
  • olew llysiau i ffrio

Ar gyfer y saws:

  • 1 llwy de olew
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • darn 3cm o sinsir ffres, wedi gratio
  • 1 winwnsyn mawr, wedi ei dorri’n fras
  • 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mân
  • 1 pupur gwyrdd, wedi ei dorri’n giwbiau mân
  • 2 foronen – wedi eu torri’n stribedi tenau
  • tun 300g o giwbiau pinafal mewn sudd
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd saws tsili melys
  • 2 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 2 llwy fwrdd saws coch
  • 4 llwy fwrdd finegr brag

I weini:

  • reis wedi ei goginio
  • hadau sesame
  • winwnsyn bach

Dull



  1. Mewn powlen fawr, cyfuno cynhwysion y marinâd, ychwanegu’r cig a chymysgu’n dda. Ei orchuddio a’i adael am 15 munud (os yn defnyddio stêcs ysgwydd, eu gadael am tua awr, wedi eu gorchuddio yn yr oergell).
  2. I wneud y saws, twymo’r olew mewn padell ffrio neu wok, ychwanegu’r sinsir a’r garlleg a chymysgu’n dda.
  3. Ychwanegu’r winwns, pupurau a moron a choginio am ryw 5-7 munud i’w meddalu.
  4. Ychwanegu’r cynhwysion sydd dros ben, cymysgu’n dda a’u berwi.
  5. Paratoi’r porc drwy roi pob ciwb yn y blawd, yna yn yr wy, a nôl yn y blawd i’w gorchuddio.
  6. Twymo olew (tua 2cm o ddyfnder) mewn padell ffrio drom a phan fo’n ddigon poeth, rhoi hanner y porc yn yr olew’n ofalus. Ffrio am 4-5 munud, eu troi unwaith, tan fod y darnau’n grimp ac yn euraidd. Tynnu’r porc allan o’r olew a’i ddraenio ar bapur cegin cyn parhau i ffrio gweddill y porc.
  7. I weini, berwi’r saws eto, ychwanegu’r porc a chymysgu’n ysgafn i orchuddio’r cig yn y saws blasus. Ei weini ar unwaith gyda reis wedi berwi a rhoi hadau sesame a winwnsyn bach wedi ei dorri drosto.
Share This