facebookPixel

Porc y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g ffiled o borc

Ar gyfer y mârinad:

  • 1 llwy de fawr o sinsir ffres wedi’i gratio
  • 2 ewin garlleg mawr, wedi’u gratio
  • 3 llwy fwrdd o saws hoisin
  • 2 lwy fwrdd o fêl
  • 2 lwy fwrdd o saws soi ysgafn

Ar gyfer y tro-ffrio:

  • 2 lwy fwrdd o olew blodau’r haul
  • 1 winwnsyn bychan, wedi’i blicio a’i dafellu’n denau
  • 200ml o stoc cyw iâr
  • 1 darn o sinsir maint cneuen wedi’i dafellu’n denau
  • 1 ewin garlleg, wedi’i blicio a’i dafellu’n denau
  • 300g o bys sugar snap peas a mangetout wedi’u torri ar eu hyd
  • 375g nwdls ŵy sych maint canolig
  • 2 bok choi
  • 2 lwy de o olew sesame

Dull



  1. Yn gyntaf paratowch y canol lwyn. Tynnwch unrhyw ewynnau gwyn o’r cyhyr a thorri ymaith unrhyw fraster sydd i’w weld. Torrwch yn 3 hyd, ac yna bob un yn ei hanner a thorri pob hanner yn stripiau.
  2. Cymerwch bowlen fawr ac ychwanegu cynhwysion y marinâd a chymysgu’r cyfan cyn ychwanegu’r stripiau porc. Cymysgwch y cyfan yn dda. Gorchuddiwch y bowlen a’i gosod o’r neilltu am 20 munud wrth i chi baratoi gweddill y tro-ffrio.
  3. Pan fyddwch yn barod i goginio, paratowch y nwdls yn gyntaf – dewch â sosban ganolig llawn dŵr i’r berw, ychwanegu’r nwdls ŵy a chymysgu i’w gwahanu. Yna ychwanegwch y bok choi a choginio’r nwdls am oddeutu 5 munud tan eu bod yn feddal. Draeniwch yn dda ac ychwanegu ychydig o halen ac ychydig o olew sesame. Gorchuddiwch nhw i’w cadw’n gynnes wrth i chi goginio’r tro-ffrio.
  4. Cynheswch wok hyd nes bod mwg, ac ychwanegu’r olew a’r winwns a’u cymysgu’n dda. Ychwanegwch y sinsir a’r garlleg a’u coginio tan eu bod yn feddal ac yn dechrau troi’n frown.
Share This