facebookPixel

Tomahawks porc wedi’u mygu gyda salsa verde India’r Gorllewin, stêcs tatws melys wedi’u grilio a bonbons porc crensiog gan Hang Fire

  • Amser paratoi 40 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 rag o tomahawks porc (6-8 asgwrn)
  • 3 llwy fwrdd sesnin jerk
  • 3 llwy fwrdd olew blas niwtral (e.e. llysiau neu flodyn haul)
  • 3 daten felys fawr

Ar gyfer y bonbons porc:

  • 250g briwgig porc
  • 1 bwnsiad o winwns bach, wedi’u torri’n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i fân-friwo
  • 1 llwy de sinsir, wedi’i fân-friwo
  • 2 lwy fwrdd sesnin jerk
  • 2 lwy fwrdd sesnin Creole
  • llond llaw o bersli, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd halen
  • 1 llwy de pupur du
  • 150g briwsion bara panko
  • golch wy (3 wy, 100ml llaeth, wedi’i chwisgio)
  • blawd plaen
  • 1l olew llysiau, i ffrio’n fas

Ar gyfer y salsa verde India’r Gorllewin:

  • ½ bwnsiad o bersli ffres, y coesau wedi’u tynnu
  • ½ bwnsiad o ddail teim ffres
  • ½ bwnsiad o goriander ffres, wedi’i dorri’n fras
  • 1 ewin garlleg mawr, wedi’i dorri’n fras
  • 50ml olew olewydd
  • 100g pîn-afal ffres (neu dalpiau o dun)
  • 4 leim, sudd a chroen
  • 1 tsili Scotch Bonnet, wedi’i dorri’n hanner a’r hadau wedi’u tynnu allan
  • darn 5cm sinsir ffres, wedi’i blicio a’i dorri
  • 1 llwy fwrdd halen môr
  • 3 llwy fwrdd surop masarn Canadaidd

Ar gyfer y crème fraiche:

  • 200ml crème fraiche
  • 1 leim, sudd a chroen
  • 1 llwy de halen môr mân
  • 1 llwy de surop masarn Canadaidd

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a’r darlledwyr bwyd Samantha Evans a Shauna Guinn – sef merched Hang Fire – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis dod o hyd i’n porc yn lleol.

Dyma beth mae Sam a Shauna yn ei ddweud am eu rysáit:

“‘Tomahawks’ porc yw llygad asen y byd porc, gydag asgwrn hir iawn ychwanegol a handlen i’w dal – nid yn unig eu bod nhw’n blasu’n fendigedig, ond maen nhw’n edrych yn eithaf anhygoel hefyd. Bydd eich cigydd yn hapus i baratoi’r darn hwn i chi. Gallwch naill ai wneud y rysáit hon trwy fygu’r cig ar farbeciw neu ei goginio yn y popty gartref, ond yn ein barn ni does dim curo ar flas siarcol tanllyd!

“Rydyn ni wrth ein bodd yn paru’r darn blasus hwn gyda’n fersiwn ni o salsa verde, gyda gwres persawrus Scotch Bonnet, melyster o’r pîn-afal a blas bywiog o sudd leim ffres. Gallwch hyd yn oed wneud y salsa verde y diwrnod cynt i arbed amser.

“Mae’r ‘bonbons’ porc yn fyrbryd blasus, crensiog a gellir eu gwneud gydag unrhyw friwgig porc o safon, ond gwnaethon ni ddefnyddio gwddf gan fod ganddo’r maint cywir o fraster blasus. Mae’r bonbons yn ychwanegu gwead hyfryd i’r pryd cyfan ond mae’n hawdd eu gweini ar eu pen eu hunain gyda salad fel byrbryd neu gwrs cychwynnol hefyd.”



  1. Gorchuddiwch y rag tomahawk porc yn yr olew a gorchuddiwch y cyfan gyda’r sesnin jerk. Rhowch mewn padell bobi.
  2. Os ydych chi’n ei fygu ar y barbeciw: cynnwch y mygwr ar gyfer gwres anuniongyrchol gan ddefnyddio pren ceirios ar gyfer y blas mwg. Sefydlogwch y tymheredd ar 110ºC / 230ºF a mygu’r rag porc nes ei fod yn cyrraedd tymheredd mewnol o 60ºC, a fydd yn cymryd tua 2 awr, yna gadewch i’r rag orffwys ar blât cynnes am 20 munud.
  3. Os yn coginio yn y popty: cynheswch y popty i 170ºC / 160ºC ffan / Nwy 4. Coginiwch am tua awr neu nes bod y rag porc yn cyrraedd tymheredd mewnol o 60ºC, yna gadewch i’r rag orffwys ar blât cynnes am 20 munud.
  4. Tra bod y rag yn coginio, cymysgwch holl gynhwysion y bonbons gyda’i gilydd yn drylwyr â llaw a’u siapio’n beli cig bach. Mae angen ‘pané’ y bonbons (sy’n golygu eu trochi mewn blawd, yna wy, yna panko) a’u rhoi o’r neilltu nes eich bod wedi gorchuddio’r swp cyfan.
  5. Gwnewch y salsa verde trwy roi’r cynhwysion mewn blendiwr neu gymysgydd nes eu bod wedi’u cymysgu’n dda. Arllwyswch hwn i bowlen, ei orchuddio a’i roi o’r neilltu neu ei gadw yn yr oergell nes bod ei angen arnoch (gallwch gadw unrhyw saws nad ydych yn ei ddefnyddio am hyd at dridiau yn yr oergell).
  6. Gallwch hefyd chwipio dip crème fraiche cyflym, blasus i gyd-fynd â’r bonbons yn benodol. Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd a’i roi yn yr oergell nes ei fod yn barod i’w weini.
  7. Unwaith y bydd y rag wedi’i goginio, torrwch e’n stêcs unigol trwy ei sleisio rhwng yr esgyrn. Gallwch orffen y stêcs naill ai’n uniongyrchol dros glo barbeciw neu mewn gradell boeth iawn. Bydd yr amser coginio’n dibynnu ar drwch pob stêc – rydyn ni’n argymell defnyddio ffon dymheredd i sicrhau bod y stêcs yn cyrraedd 70ºC. Gorffwyswch y stêcs cyn eu gweini.
  8. Gyda’r radell neu’r barbeciw yn boeth braf a thra bod y stêcs yn gorffwys, torrwch y tatws melys yn stêcs trwchus a’u brwsio â rhywfaint o olew. Griliwch nhw am tua 6 munud, gan eu troi bob 2 funud, nes eu bod ychydig yn feddal (dydyn ni ddim yn eu hoffi’n rhy soeglyd).
  9. Ar yr un pryd, cynheswch badell o olew i 165ºC a ffriwch y bonbons am 8-10 munud, gan eu troi’n ofalus yn y badell nes eu bod yn euraidd ac yn grensiog. Draeniwch nhw ar bapur cegin.
  10. Nawr rydych chi’n barod i roi’r holl elfennau ar blatiau a dod â’r pryd at ei gilydd. Rhowch ychydig o stêcs tatws melys ac 1 tomahawk ar bob plât, ynghyd ag ychydig o fonbons porc. Taenwch y stêcs gyda salsa verde a gweinwch y crème fraiche mewn powlen fach i ddipio’r bonbons.
Share This