facebookPixel

Donyts siwgr sinamon yn llawn bol porc gyda caramel menyn cnau miso a sglodion afalau gan Llio Angharad a Nicky Batch

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr 45 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg bol porc, gyda’r croen
  • potel 500ml o seidr Cymreig
  • 400ml stoc cyw iâr
  • 3 ewin garlleg
  • 2 afal Granny Smith, un wedi’i dorri’n ‘slgodion tenau’
  • 1 winwnsyn gwyn
  • 2 lwy fwrdd mêl
  • 25ml finegr seidr
  • 1 ffon sinamon
  • 2 goeden anis
  • 5 clof
  • 1 tsili cyfan

Ar gyfer y caramel menyn cnau miso:

  • 2 lwy de miso gwyn
  • 2 lwy de menyn cnau mwnci
  • 100ml dŵr
  • 200g siwgr mân euraidd
  • 50g menyn heb ei halltu, wedi’i feddalu
  • 100ml hylif coginio o’r porc

Ar gyfer y donyts:

  • bag o 6 donyt, neu dilynwch eich hoff rysáit donyts!
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown meddal
  • 1 llwy de sinamon mâl

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a @llioangharad a @batchout – sef y blogwyr bwyd a’r partneriaid o Gaerdydd – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Llio a Nicky yn ei ddweud am eu rysáit:

“Does dim ffordd arall o ddisgrifio hwn na fel ffrwydrad melys a sur o hwyl yn eich ceg! Gwnaethon ni fwynhau meddwl am y rysáit anarferol hon yn fawr ac rydyn ni wrth ein bodd â’r cymysgedd o flasau na fyddech chi’n meddwl eu paru gyda’i gilydd fel arfer – mae’n wallgof ond mae wir yn gweithio, a credwch chi ni, mae’n bryd cofiadwy iawn i’w baratoi ar gyfer eich partner neu i’w fwynhau gyda ffrindiau.”



  1. Halltwch groen y bol porc a’i roi yn yr oergell am awr. Unwaith y bydd yn barod sychwch y lleithder oddi ar y cig, a’i adael am ryw 30 munud i ddod i dymheredd yr ystafell.
  2. Cynheswch y popty i 240ºC / 220ºC ffan / Nwy 9.
  3. Cynheswch ychydig o olew mewn dysgl gaserol a browniwch y porc ar bob ochr, yna tynnwch allan o’r sosban.
  4. Torrwch y winwnsyn ac un afal yn ddisgiau, a rhowch y disgiau yn y ddysgl i garameleiddio am ychydig funudau. Ychwanegwch y garlleg a’r tsili a’u ffrio am funud arall.
  5. Ychwanegwch y porc yn ôl i’r ddysgl, ochr y croen i fyny. Arllwyswch y seidr, stoc cyw iâr, mêl a finegr seidr i mewn. Torrwch y sinamon, coeden anis a’r clof i mewn, sesnwch gyda halen a phupur, yna rhowch y ddysgl yn y popty (gwnewch yn siŵr nad yw’r hylif yn cyffwrdd â’r croen neu ni fydd yn crimpio).
  6. Ar ôl 25 munud, gostyngwch y tymheredd i 160ºC / 140ºC ffan / Nwy 3 a’i goginio am 2 awr arall, neu nes bod y porc yn frau a bod y cig yn syrthio wrth ei gilydd. Os nad yw’r croen wedi mynd yn grensiog, rhowch ef o dan y gril nes ei fod yn grimp.
  7. Rhowch y porc ar ddysgl i orffwys a thynnu 100ml o’r hylif coginio allan; rhowch hwn trwy ridyll i dynnu unrhyw lympiau allan.
  8. I wneud y caramel, cynheswch y siwgr a’r dŵr mewn padell dros wres uchel. Cynheswch am 5-10 munud nes bod y dŵr yn anweddu a’r siwgr yn dechrau troi’n dywyllach ac yn arogli fel caramel – byddwch yn ofalus i beidio â’i losgi!
  9. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a throwch y menyn wedi’i feddalu a’r hylif coginio wedi’i hidlo i mewn – byddwch yn ofalus oherwydd gallai boeri a byrlymu. Os yw’r caramel yn caledu mewn talpiau, dychwelwch ef i wres ysgafn a’i droi nes ei fod yn llyfn eto.
  10. Ychwanegwch y miso a’r menyn cnau mwnci i’r caramel a’i droi i gyfuno.
  11. Rholiwch y donyts yn y cymysgedd siwgr a sinamon, a’u sleisio’n hanner.
  12. Paratowch eich donyts trwy eu llenwi â llond llaw hael o borc wedi’i dorri’n fân, winwns aur o’r badell, sglodion afalau tenau, craclin porc crensiog a diferyn o’r miso a’r caramel menyn cnau mwnci.
Share This