facebookPixel

Ffagots porc wedi’u lapio mewn cig moch gyda grefi saets a winwns gan The Rare Welsh Bit

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 550g briwgig bol neu ysgwydd porc
  • 250g iau/afu mochyn, wedi’i dorri’n fân
  • 16 sleisen o gig moch rhesog
  • cymysgedd stwffin saets a winwns
  • ¼ llwy de halen
  • ¼ llwy de pupur du wedi’i falu’n ffres
  • ½ llwy de mês wedi’i falu’n ffres neu ¼ llwy de nytmeg
  • ½ llwy de teim sych
  • ½ llwy de olew blodau’r haul, i iro’r ddysgl

Ar gyfer y grefi saets a winwns:

  • ½ llwy fwrdd olew blodau’r haul neu 25g menyn
  • 2 sbrigyn o saets ffres, y dail wedi’u tynnu a’u rhoi o’r neilltu
  • 1 winwnsyn mawr melyn, wedi’i blicio a’i sleisio’n fân
  • 1 llwy de siwgr brown meddal
  • 450ml stoc cig eidion
  • ½ llwy fwrdd finegr balsamig
  • ½ llwy fwrdd saws Worcestershire
  • 1½ llwy fwrdd blawd plaen

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a @therarewelshbit – sef y blogiwr bwyd o Gaerdydd, Kacie Morgan – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Kacie yn ei ddweud am ei rysáit:

“Mae ryseitiau ffagots traddodiadol Prydain yn dyddio’n ôl nifer o flynyddoedd, gyda gwahanol ranbarthau’r DU yn rhoi eu tro unigryw eu hunain ar y pryd yma o beli cig cysurus, a wneir yn draddodiadol gan ddefnyddio briwgig o dorion ac offal (yr afu a / neu’r galon fel arfer, er bod arennau hefyd yn cael eu defnyddio weithiau). Mae’r rysáit ffagots porc Cymru hon yn cynnwys briwgig bol porc a iau mochyn ffres wedi’i gyfuno â chymysgedd stwffin, perlysiau a sbeisys i ffurfio peli cig mawr, cynnes, wedi’u gweinio gyda grefi saets a winwns cyfoethog.

“Yn draddodiadol, mae ffagots yn cael eu lapio mewn braster gweren (y bilen denau sy’n amgylchynu organau mewnol rhai anifeiliaid) ond rydw i wedi defnyddio sleisys o gig moch rhesog heb eu mygu yn lle hynny – gallwch chi hyd yn oed hepgor y cig moch yn gyfan gwbl os yw’n well gennych chi.

“Nid yn unig bod y ffagots porc hyn yn blasu’n hollol fendigedig, ond maen nhw’n rhyfeddol o gyflym a hawdd i’w paratoi, ac yn gwneud y gorau o offal mochyn – rhan o’r anifail sy’n cael ei ddefnyddio llai ond sydd eto’n hynod flasus.”



  1. Cynheswch y popty i 180°C / ffan 160°C / Nwy 4.
  2. Paratowch y gymysgedd stwffin saets a winwns yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, a’i rhoi o’r neilltu.
  3. Torrwch iau’r mochyn yn fân naill ai trwy ei gymysgu mewn prosesydd bwyd neu ei dorri â llaw. Cyfunwch hwn â’r briwgig.
  4. Ychwanegwch y stwffin, yr halen a phupur, y mês mâl, a’r teim, a’u cymysgu i gyfuno, gan ddefnyddio’ch dwylo i sicrhau bod y cynhwysion wedi’u cymysgu’n dda.
  5. Ffurfiwch y gymysgedd yn wyth pêl fawr, gron, tua maint pêl tenis.
  6. Lapiwch bob ffagot mewn dwy sleisen o gig moch rhesog heb ei fygu.
  7. Irwch ddysgl popty neu hambwrdd rhostio’n ysgafn, a threfnwch y ffagots ar yr hambwrdd. Nawr gwnewch y grefi, a fydd yn cael ei bobi yn y popty gyda’r ffagots.
  8. Dechreuwch trwy gynhesu’r olew neu’r menyn mewn padell ffrio nad yw’n glynu a ffrio’r dail saets am 3-4 munud, nes eu bod yn grensiog, cyn eu tynnu’n ofalus o’r badell gyda llwy rychog a’i rhoi o’r neilltu.
  9. Ffriwch y winwns wedi’u sleisio dros wres isel i ganolig am ryw 10 munud, nes eu bod yn euraidd ac wedi meddalu. Ychwanegwch y siwgr a pharhewch i goginio am 4-5 munud arall, nes eu bod wedi carameleiddio.
  10. Ychwanegwch y stoc cig eidion i’r badell, ac yna’r finegr balsamig a’r saws Worcestershire. Gadewch iddo fudferwi am 2-3 munud arall.
  11. Cymysgwch y blawd gyda llwy fwrdd o ddŵr oer i ffurfio past llyfn. Ychwanegwch hwn i’r badell, gan ei gymysgu a gadael iddo fyrlymu nes bod y grefi wedi tewhau ychydig.
  12. Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac arllwyswch y grefi winwns i’r ddysgl, gan orchuddio’r ffagots. Coginiwch nhw yn y popty am awr neu ddwy, neu nes eu bod wedi’u coginio drwyddynt.
  13. Gweinwch eich ffagots gyda thatws stwnsh hufennog a phys slwtsh neu bys gardd, mewn pwll o grefi saets a winwns cyfoethog, wedi’u haddurno â dail saets crensiog.
Share This