facebookPixel

Schnitzel porc gyda sglodion popty, mwstard a saws afal gan Little Welsh Foodie

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 35 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stêc lwyn porc
  • 100g blawd plaen
  • 1 llwy de halen garlleg
  • 1 llwy de pupur du
  • 1 llwy de paprica mwg
  • 2 wy mawr
  • 50g briwsion bara euraidd
  • 1 llwy fwrdd olew llysiau, i ffrio
  • llysiau tymhorol, i weini

Ar gyfer y sglodion:

  • 5 taten fawr wen
  • 3 llwy fwrdd olew llysiau
  • pupur a halen
  • 1 llwy de powdr garlleg

Ar gyfer y saws afal:

  • 1 afal, wedi’i sleisio’n dalpiau
  • 1 winwnsyn gwyn, wedi’i sleisio’n denau
  • 200ml stoc llysiau
  • 2 lwy de mwstard grawn cyflawn
  • pupur a halen

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a @littlewelshfoodie – sef y blogiwr bwyd o ogledd Cymru, Naomi Spaven – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Naomi yn ei ddweud am ei rysáit:

“Rydw i wrth fy modd â’r pryd poblogaidd schnitzel o Awstria – mae’r briwsion bara euraidd wedi’u ffrio a’r porc blasus yn fwyd cysur syml, di-ffws, delfrydol a fydd yn plesio pawb gartref. Mae’n siŵr o fod yn llwyddiant ysgubol.”



  1. Cynheswch y popty i 200°C / ffan 180°C / Nwy 6.
  2. Llenwch badell gyda dŵr oer, torrwch y tatws yn sglodion a rhowch nhw yn y badell. Dewch â’r dŵr i’r berw a lledferwi’r tatws am 5 munud, cyn eu draenio’n dda.
  3. Ychwanegwch yr olew llysiau i hambwrdd pobi mawr a chymysgu’r tatws i mewn gyda halen, pupur a’r powdr garlleg.
  4. Coginiwch am 30 munud nes eu bod yn grimp ac yn euraidd. Os nad ydyn nhw’n ddigon crimp ar ôl 30 munud, rhowch ysgwydiad i’r hambwrdd a’i roi yn ôl i mewn am 5-10 munud arall.
  5. Tra mae’r sglodion yn coginio, gwnewch y schnitzel a’r saws afal. Rhowch y stêcs lwyn porc mewn cling ffilm a defnyddiwch badell neu rolio pin i’w fflatio.
  6. Gwnewch bowlen o flawd wedi’i gymysgu â’r halen garlleg, pupur a phaprica mwg. Mewn powlen arall, craciwch ddau wy a’u curo. Mewn trydedd powlen, arllwyswch y briwsion bara euraidd i mewn.
  7. Cymerwch eich stêcs porc fflat a’u trochi yn gyntaf yn y blawd, yna’r wy, yna’r briwsion bara, nes eu bod wedi’u gorchuddio’n dda. Ailadroddwch gyda’r stêc arall. Rhowch y rhain o’r neilltu tra byddwch chi’n gwneud y saws.
  8. Ar gyfer y saws afal, sleisiwch yr afal yn dalpiau a sleisiwch y winwnsyn yn denau. Ffriwch nhw gydag ychydig o olew am 6-7 munud nes iddyn nhw ddechrau meddalu. Ychwanegwch y stoc llysiau, halen a phupur a mwstard grawn cyflawn. Coginiwch y cyfan nes ei fod wedi tewychu gydag ansawdd tebyg i grefi.
  9. Ychwanegwch ychydig o olew llysiau i badell ffrio fawr ar wres canolig-uchel a ffriwch y schnitzel am tua 3 munud bob ochr nes ei fod yn euraidd. Rhowch o’r neilltu ar blât poeth wedi’i orchuddio â phapur cegin i ddraenio unrhyw olew dros ben.
  10. Rhowch y schnitzel, sglodion a saws afal ar blat a’u gweini gyda llysiau o’ch dewis – dwi wrth fy modd â brocoli Tenderstem ac asbaragws gyda hwn.
Share This