facebookPixel

Medalau porc gyda saws rym cnau coco a chreision gwraidd lotws gan The Rare Welsh Bit

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 600g (tua 8) medal porc (neu lwyn ganol wedi ei sleisio’n fedalau 1.5cm o drwch)
  • 30ml rym tywyll
  • 50ml llaeth cnau coco
  • 50ml hufen dwbl
  • 1 llwy de teim sych
  • 50g sialots, wedi eu plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 125ml stoc cyw iâr
  • ½ llwy de nytmeg ffres wedi ei ratio neu ¾ llwy de nytmeg mâl
  • 2 lwy fwrdd menyn heb halen
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • ¼ llwy de halen
  • ¼ llwy de pupur du mâl

Ar gyfer y stwnsh tatws melys:

  • 1kg tatws melys, wedi eu plicio a’u torri’n fras
  • 50ml llaeth cnau coco
  • 2 ewin garlleg, wedi eu minsio
  • 1 llwy fwrdd dail teim ffres
  • pupur a halen, at eich dant

Ar gyfer y spigoglys:

  • 200g spigoglys ffres
  • 1 llwy fwrdd olew cnau coco

Ar gyfer y creision gwraidd lotws:

  • 150g gwraidd lotws ffres (ewch i’ch archfarchnad Asiaidd leol, neu mae lotws wedi ei rewi neu mewn tun yn iawn)
  • ¼ llwy de powdr tsili (dewisol)
  • pupur a halen, at eich dant
  • olew llysiau i ffrio

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a @therarewelshbit – sef y blogiwr bwyd o  Gaerdydd, Kacie Morgan – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Kacie yn ei ddweud am ei rysáit:

“Mae’r saws rym cnau coco yn y rysáit yma yn gwneud defnydd da o rai o gynhwysion craidd coginio’r Caribi. Er yn flasau anarferol i’w rhoi gyda phorc, maent yn  gweithio’n dda iawn, a gallwch chi’n sicr ddychmygu eich bod ar eich gwyliau yn rhywle poeth wrth fwyta’r pryd yma! Mae’r creision gwraidd lotws yn ddewisol, ond maen nhw’n flasus dros ben ac yn edrych yn wych ar y plat os ydych chi’n trio creu argraff!”



  1. Tynnwch y medalau porc allan o’r oergell a gadewch iddyn nhw ddod i dymheredd yr ystafell cyn eu gorchuddio ag olew olewydd, teim a halen a phupur.
  2. Tra eich bod yn aros, gallwch ddechrau gwneud y creision gwraidd lotws. Sleisiwch y gwraidd lotws ar draws, mor denau â phosibl (mae mandolin yn ddelfrydol!). Sychwch ef drwy ei daro’n ysgafn gyda phapur cegin i amsugno cymaint o leithder ag y gallwch.
  3. Cynheswch yr olew llysiau mewn padell ffrio fawr neu wok. Bydd faint o olew y bydd ei angen arnoch yn dibynnu ar faint eich sosban, ond dylai fod yn ddigon dwfn i orchuddio’r sleisys gwraidd lotws yn hawdd. Unwaith y bydd yr olew’n boeth, ychwanegwch y gwraidd lotws i’r badell a’i ffrio am 4-6 munud, nes ei fod yn grimp ac yn euraid. Tynnwch o’r badell a’i drosglwyddo i bapur cegin i ganiatáu i unrhyw olew dros ben ddraenio.
  4. Cymysgwch y creision gwraidd lotws gyda halen, pupur ac, os hoffech chi, pinsiad o bowdr tsili. Maen nhw bellach yn barod i’w gweini nes ymlaen.
  5. Berwch sosban fawr o ddŵr a dechreuwch ferwi’r tatws melys am 15-20 munud, nes eu bod yn dyner.
  6. Tra bo’r tatws melys yn berwi, ffriwch y medalau porc dros wres canolig am 3-4 munud bob ochr, nes eu bod yn frown euraid ac wedi’u coginio drwyddynt draw. Tynnwch nhw allan o’r badell, trosglwyddwch nhw i blât a’u gadael i orffwys.
  7. Toddwch y menyn yn yr un sosban a ffriwch y shibwns yn ysgafn am 1-2 funud, nes eu bod wedi meddalu ac yna tynnwch y sosban oddi ar y gwres.
  8. Ar ôl ei dynnu oddi ar y gwres, arllwyswch y rym a defnyddio’r dull flambé i losgi’r alcohol. I wneud hyn, bydd angen i chi wyro’r badell ffrio (yn ddelfrydol sosban ddur gloyw neu gopr gyda dolen hir) i ffwrdd oddi wrthych a thanio’r badell gan ddefnyddio goleuwr â dolen hir. Mae’n syniad da cael caead sosban metel mawr wrth law i ladd unrhyw fflamau a allai fynd allan o reolaeth.
  9. Arllwyswch y stoc cyw iâr i mewn, dychwelwch y badell i’r gwres a gadewch iddo fudferwi a thewychu am 5 munud. Ychwanegwch yr hufen dwbl a’r llaeth cnau coco ynghyd ag unrhyw sudd gorffwys o’r medalau. Efallai y byddwch eisiau gostwng y gwres cyn arllwys yr hufen dwbl i mewn, er mwyn atal y saws rhag ceulo.
  10. Ychwanegwch y nytmeg wedi’i ratio at eich saws a’i droi i’w gyfuno. Ychwanegwch halen a phupur at eich dant, er oherwydd i’r porc gael ei sesno’n gynharach, efallai na fydd angen i chi ychwanegu unrhyw halen neu bupur ychwanegol.
  11. Gwnewch y sbigoglys yn gyflym drwy dwymo’r olew cnau coco mewn padell ffrio wrthglud neu wok, nes ei fod wedi toddi. Ychwanegwch y sbigoglys ffres i’r badell a’i goginio dros wres canolig nes ei fod newydd wywo, am tua 2-3 munud.
  12. Tra bo’r sbigoglys yn gwywo gorffennwch wneud eich stwnsh tatws melys drwy ddraenio’r tatws a’u stwnsio cyn ychwanegu’r llaeth cnau coco, ac yna pinsiad o halen a phupur. Parhewch i stwnsio nes ei fod wedi’i gyfuno’n drylwyr.
  13. Gweinwch eich medalau porc gyda’ch stwnsh tatws melys a’ch sbigoglys ffres, wedi’u diferu â saws rym cnau coco a’u haddurno â chreision gwraidd lotws.
Share This