facebookPixel

Golwython porc gyda chaws pob a sglodion tenau

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 golwython porc trwchus
  • 1 bwlb garlleg cyfan, wedi’i haneru
  • halen a phupur
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 4 deilen saets ffres wedi’u torri’n fras
  • 2 daten fawr, wedi’u torri’n ‘sglodion tenau’
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd

Ar gyfer caws pob:

  • 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
  • 100g caws Cheddar aeddfed wedi’i gratio
  • 75ml cwrw
  • 1 llwy de mêl

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Rhowch y golwython porc, garlleg, halen a phupur, olew olewydd a saets mewn padell bobi fawr, cymysgwch y cyfan i gyfuno’r holl gynhwysion cyn eu rhoi mewn un haen ar draws y badell fel eu bod i gyd yn cael eu coginio yn gyfartal.
  3. Rhowch y sglodion ar hambwrdd wedi’i leinio â phapur pobi, rhowch olew drostynt a’u rhoi mewn un haen er mwyn eu coginio.
  4. Rhowch y sglodion mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 40 munud nes bod y golwython wedi’u coginio drwodd ac yn lliw euraidd, a thynnwch y sglodion allan pan fyddant yn grensiog ac euraidd.
  5. Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd ar gyfer y caws pob.
  6. Rhowch y cymysgedd caws ar y golwython a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn i doddi am tua 5-10 munud.
  7. Gweinwch y cig gyda sglodion tenau ac asbaragws neu ffa Ffrengig ar gyfer dipio.
Share This