facebookPixel

Golwython porc wedi’u pobi mewn paprica mwg

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 o olwython porc lwyn heb fawr o fraster
  • 2 lwy fwrdd o baprica melys myglyd
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown ysgafn
  • tun 400g o domatos wedi’u torri’n fân
  • 300ml o passata
  • 2 lwy de o bowdr tsili
  • 1 afal coginio, wedi’i bilio a’i ddeisio

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4.
  2. Gosodwch ddwy haen o ffoil yn y tun rhostio.
  3. Cymysgwch y paprica, siwgr, tomatos, passata, powdr tsili ac afal. Tywalltwch y gymysgedd i’r tun; ychwanegwch y golwython a’u trochi yn y saws.
  4. Coginiwch am tua 45-60 munud tan fydd y cig yn frau a meddal.
  5. Gweinwch gyda reis cymysg wedi’i stemio, saws mwg a dail salad tymhorol.
Share This