facebookPixel

Golwython porc wedi’u coginio mewn padell ffrio gyda saws ffa du ac eirin

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 olwyth neu stecen lwyn porc heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd o olew llysiau
  • 1 llwy de o olew llysiau
  • 1 llwy fwrdd o olew sesame
  • 1 winwnsyn coch bach, wedi’I sleisio’n denau
  • 2 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
  • 2.5cm o wreiddyn sinsir, wedi’I bilio a’i falu
  • 3 eirinen aeddfed, heb y cerrig, wedi’u torri’n chwarteri
  • 5 llwy fwrdd o saws ffa du
  • 60ml o sudd oren
  • 8-10 o rawnwin du heb hadau, wedi’u torri yn eu hanner
  • llond llaw fawr o fresych y gwanwyn, wedi’u torri’n denau
  • 2 pak choi, wedi’u sleisio

Dull



  1. Cynheswch olew mewn wok neu badell ffrio fawr ac ychwanegwch y winwns, garlleg, sinsir a’r stêcs. Coginiwch am 2-3 munud nes bydd y cig yn frown a’r winwns wedi dechrau meddalu.
  2. Ychwanegwch yr eirin, y saws ffa du, y sudd oren a’r grawnwin. Cymysgwch y cyfan yn dda, gorchuddiwch gyda chaead a gadewch y cyfan I ffrwtian am tua 10 munud.
  3. Yna, cynheswch ychydig o olew mewn wok neu badell ddofn arall a thro-ffrio’r llysiau am 3-4 munud.
  4. Gweinwch gyda nwdls, gyda’r stecen ar ben y llysiau wedi’u tro-ffrio a’r saws ar eu pennau.
Share This