facebookPixel

Pot porc paprica

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g o ysgwydd neu goes porc heb lawer o fraster, wedi’i thorri’n giwbiau
  • 3 selsigen porc a tsili sbeislyd, wedi’u troelli a’u torri yn eu hanner
  • 3 sleisen o gig moch mwg heb lawer o fraster, wedi’u torri’n ddarnau
  • 2 lwy fwrdd o olew llysiau
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri ‘n dalpiau
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • 1 pupur coch, heb yr hadau, wedi’i dorri yn ddarnau bach
  • 2 dun 400g o domatos wedi’u torri
  • 2 lwy fwrdd o baprica mwg
  • 1 llwy de o siwgr brown meddal
  • 150ml o stoc porc
  • 1 tun 200g o ffa coch, wedi’u rinsio a’u draenio
  • ½ tun o ffa menyn, wedi’u rinsio a’u draenio

Ar gyfer y twmplenni:

  • 100g o flawd codi
  • 40g o siwed
  • ½ tun o ffa menyn, wedi’u rinsio a’u draenio
  • 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
  • halen a phupur

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i /180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Cynheswch olew mewn pot mawr addas i’r popty ac ychwanegwch y porc, selsig, cig moch, winwns a garlleg.
  3. Cynheswch y gymysgedd yn raddol nes i’r cig ddechrau brownio a’r winwns feddalu.
  4. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a dod â’r cyfan i’r berw. Pan fydd y gymysgedd yn berwi, rhowch gaead drosti a choginio yn y popty am 1½ awr neu nes bydd y porc yn feddal.
  5. Ewch ati i wneud y twmplenni tra bydd y porc yn coginio. Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y twmplenni mewn powlen ac ychwanegwch ychydig o ddwˆ r oer i’w clymu gyda’i gilydd. Yna, lluniwch 8-10 twmplen o’r gymysgedd.
  6. Rhowch y twmplenni ar ben y porc a’u coginio am 20 munud (10 munud gyda’r caead a 10 munud hebddo).
  7. Gweinwch gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio.
Share This