facebookPixel

Caserol porc, chorizo, ffa gwynion a bara crensiog

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 400g o borc, ysgwydd neu goes, i’w friwsio, wedi’i drimio a’i dorri’n giwbiau mawr
  • rhwbiad sesnin (1 llwy de o baprica mwg, 1 llwy de wastad o bowdr garlleg, 1 llwy de o oregano, ½ llwy de o halen môr, 1 llwy de o ffenigl, ½ llwy de o siwgr)
  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd
  • 150g o chorizo, wedi’i dorri’n ddarnau hanner modfedd
  • 1 winwnsyn canolig, wedi’i dorri’n fân
  • 1 foronen ganolig, wedi’i sleisio
  • 1 coes seleri, wedi’i blicio (gyda phliciwr llysiau) a’i dafellu
  • 350ml o stoc cyw iâr
  • 300g o domatos wedi’u torri’n fân
  • 200g o ffa gwynion
  • 2 clof garlleg, wedi’u gratio
  • 4 deilen saets, wedi’i torri
  • 1 llwy fwrdd past tomato
  • llond llaw o bersli, wedi’i dorri
  • pupur a halen fel sesnin

I’r bara crensiog:

  • 1 ffon fara ffrengig
  • 2 clof garlleg, wedi’i dorri
  • pinsied o halen môr
  • 50g o fenyn
  • ½ llwy de berlysiau sych

Dull



  1. Yn gyntaf rhwbiwch y ciwbiau porc gyda’r sesnin, ei gymysgu mewn powlen a’i roi o’r neilltu.
  2. Yn y powlen gaserol, sauté y winwnsyn, y moron a’r seleri mewn olew olewydd tan eu bod yn feddal.
  3. Ffriwch dau draean o’r chorizo gyda’r llysiau meddal nes eu bod yn carameleiddio ac yn troi’n oren ac olew paprica yn llifo.
  4. Ychwanegwch y porc mewn dyrneidiau a’u selio yn yr olew lliw copr. Nid oes angen gormod o liw. Wedi gorffen pob dyrnaid, gwthiwch nhw i’r ochr i wneud lle i’r nesaf hyd nes bod y cyfan wedi’i goginio drwyddo a chymysgwch gyda’r chorizo a’r llysiau.
  5. Ychwanegwch y garlleg, saets, tomatos, past tomato a’r stoc a chymysgwch yn drwyadl nes bod y cig wedi ei orchuddio gan yr hylif.
  6. Ychwanegwch y tafelli chorizo heb eu coginio sy’n weddill a chymysgu. Arhoswch iddo ddechrau mudferwi a choginiwch ar yr hob am tua awr.
  7. Wedi iddo fudferwi am tua 45 munud cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
  8. Ar ôl awr draeniwch y ffa gwynion a’u hychwanegu nhw hefyd, ynghyd â’r persli. Caewch y clawr; rhowch y pryd yn y ffwrn a’i goginio am tua awr arall.
  9. Ar ôl tua 35 munud dechreuwch baratoi’r bara. Torrwch y bara yn 10 tafell, ychydig ar ongl. Cymysgwch y garlleg a’r halen môr a chymysgwch hwn gydag ychydig fenyn wedi toddi. Ychwanegwch y perlysiau a thaenwch y gymysgfa ar wyneb bob tafell o fara.
  10. Rhowch y bara o amgylch y ddysgl gaserol a’i roi yn ôl yn y ffwrn am tua 15 munud nes yn grensiog.
  11. Cymerwch ddarn o borc allan i weld os yw’n barod. Dylai gwympo’n ddarnau’n hawdd o’i brocio â fforc. Os nad yw’n gwbl barod, rhowch y pryd yn ôl yn y ffwrn am 20 munud arall a gwirio eto.
  12. Os yw’r hylif ychydig yn denau, rhowch y caserol yn ôl ar yr hob heb glawr, gadewch iddo fudferwi a thewychu’r saws.
Share This