facebookPixel

Caserol porc blasus

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o giwbiau o borc coch, ysgwydd neu goes
  • 1 genhinen ganolig, wedi’i sleisio
  • 2 ffon seleri, wedi’u sleisio
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
  • 1 llwy fwrdd o saws Swydd Gaerwrangon
  • 300ml o sudd oren
  • 1 llwy fwrdd o baprica
  • 1 llwy fwrdd o fwstard Seisnig

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160ºC / 140ºC ffan / Marc Nwy 3.
  2. Rhowch yr holl gynhwysion mewn dysgl gaserol y gellir ei rhoi yn y popty.
  3. Cymysgwch yn dda, gorchuddiwch a choginiwch yn y popty am 1½-2 awr nes mae’r cig yn frau.
  4. Gweiniwch gyda rwden, tatws a moron wedi’u stwnsio a chymysgedd o lysiau tymhorol.
Share This