900g ysgwydd, coler neu goes borc wedi’i thorri’n giwbiau mawr
100g stribedi cig moch wedi’u halltu heb eu mygu
1 llwy fwrdd olew
2 winwnsyn, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau
2 ewin garlleg, wedi’u torri’n fras
2 afal bwyta wedi’u creiddio a’u torri’n ddarnau
halen a phupur
2 sbrigyn o saets ffres
300-450ml seidr melys
1 llwy fwrdd gronynnau grefi
2 foronen fawr, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau ar eu hyd
2 banasen, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau ar eu hyd
2 daten, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau
darn o fenyn
Dull
Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
Cynheswch yr olew mewn padell fawr ac ychwanegwch y ciwbiau o borc, y stribedi cig moch, y winwnsyn a’r garlleg. Coginiwch y cyfan nes bod y cig yn frown ysgafn.
Ychwanegwch y darnau o afal, halen a phupur, dail saets a seidr. Gadewch i’r cymysgedd fyrlymu. Ychwanegwch y gronynnau grefi er mwyn tewychu rhywfaint ar y saws.
Arllwyswch y cyfan i mewn i bot caserol mawr, dwfn.
Rhowch y llysiau sydd wedi’u sleisio ar ben y cig, gan amrywio’r llysiau a’u cymysgu i greu haen ddofn o lysiau cymysg. Rhowch ddarnau o fenyn drosto a’i orchuddio â ffoil.
Rhowch y cymysgedd yn y ffwrn am 1½-2 awr (edrychwch i weld pa mor dyner yw’r cig ar ôl 1½ awr drwy wthio sgiwer drwy’r haen o gig).
Tynnwch y ffoil a choginiwch y cig am 15-20 munud arall nes bod y llysiau yn feddal ac yn euraidd.
Gweinwch y cig a’r llysiau gyda llysiau gwyrdd tymhorol ychwanegol wedi’u stemio.