facebookPixel

Jambalaya porc

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o ffiled porc goch, wedi deisio i giwbiau ½”
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 4 selsigen drwchus, sbeislyd
  • 1 nionyn, wedi’i sleisio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • 2 lwy fwrdd o sesnin jerk
  • 225g o reis grawn hir
  • tun o domatos, wedi’u torri
  • 600ml o stoc
  • 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
  • 1 pupur coch, heb yr hadau ac wedi’i ddeisio’n fân
  • 1 pupur melyn, heb yr hadau ac wedi’i ddeisio’n fân
  • 5 sibolsyn, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi’i dorri (dewisol)
  • 2 lwy fwrdd o goriander ffres

Dull



  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y nionyn a’r garlleg a choginiwch am 2 funud nes maent wedi meddalu.
  2. Ychwanegwch y selsig a’u brownio. Tynnwch y selsig o’r sosban a gadael iddynt oeri ychydig cyn eu torri’n 3.
  3. Ychwanegwch y ciwbiau porc a’u coginio nes maent wedi brownio.
  4. Ychwanegwch y sesnin jerk a choginiwch am funud arall.
  5. Ychwanegwch y reis grawn hir a’i droi nes mae wedi’i orchuddio yn y sbeisys.
  6. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y stoc, y piwrî tomato a’r pupur coch a melyn. Cymysgwch yn dda, gorchuddiwch a mudferwch am 30 munud gan ei droi bob hyn a hyn (efallai y bydd angen i chi ychwanegu mwy o hylif os yw’n ludiog).
  7. Tynnwch y caead am 10-15 munud arall nes mae wedi tewychu. Ychwanegwch y sibolsyn,  tsili (os yn denfyddio) a choriander ffres.
  8. Gweiniwch gyda bara crystiog a rhagor o lysiau wedi’u stemio os dymunwch.
Share This