facebookPixel

Porc wedi’i dynnu

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.5kg darn o ysgwydd, coler neu goes porc
  • 1 llwy fwrdd cwmin mâl
  • pinsiad o bowdwr tsili
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown tywyll
  • 150ml stoc porc
  • 150ml sudd oren a mango neu sudd â blas tebyg
  • 80ml (5 llwy fwrdd) cordial blodau ysgawen

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Rhowch haen ddwbl o ffoil ar waelod padell rhostio. Rhowch y cig ar fwrdd ac yn ofalus, gan ddefnyddio cyllell finiog, tynnwch y grofen ac ychydig o fraster o’r cig a’i daflu. Gwnewch batrwm cris-croes ar y cig di-fraster. Rhowch y cig mewn padell rhostio.
  3. Cymysgwch y cwmin, y siwgr a’r tsili a’u rhwbio i mewn i wyneb y cig. Cymysgwch y stoc, y sudd a’r ddiod. Arllwyswch y cymysgedd hwn dros y cig.
  4. Plygwch y ffoil yn llac o amgylch y cig. Defnyddiwch ddarn arall o ffoil i orchuddio’r cyfan. Coginiwch y cig am tua 3 awr nes bod y cig yn frau ac yn feddal.
  5. Unwaith y bydd wedi coginio, rhowch y cig ar y bwrdd – dylai fod yn ddigon meddal i’w ‘dynnu’ yn ddarnau gan ddefnyddio dwy fforc.
  6. Gweinwch gyda reis wedi’i goginio mewn dull jambalaya (reis cnau coco sydd wedi’i goginio eisoes – gyda phinsiad o tsili a chwmin, pomgranad, naddion cnau coco, shibwns a letys wedi’i dorri’n fân).
Share This