facebookPixel

Byrgyr porc sbeislyd gyda nachos â chaws

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 tsili gwyrdd, heb yr hadau, wedi’i dorri’n fân
  • 1 pupur coch bach, heb yr hadau, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy de o bâst harissa
  • pupur du

Ar gyfer salsa guacamole:

  • 2 lwy fwrdd o saws tsili melys
  • ¼ ciwcymbr bach, wedi’i dorri’n fras
  • 1 afocado aeddfed, wedi’i dorri
  • 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
  • sudd ½ lemwn
  • 1 tomato, wedi’i dorri’n fras

Gweinwch gyda:

  • llond llaw o greision tortilla
  • caws Cheddar wedi’i gratio
  • hufen sûr i weini
  • letys iceberg

Dull



  1. Cymysgwch y briwgig porc, garlleg, tsili, pupur, past harissa a’r halen a phupur mewn powlen.
  2. Yna, rhannwch y gymysgedd yn bedwar a chreu pedwar byrgyr taclus ohonynt.
  3. Cynheswch y gril a rhoi’r byrgyrs i goginio am 12 – 14 munud neu nes byddant yn euraidd ac wedi coginio’n drylwyr.
  4. Tra bydd y byrgyrs yn coginio, cymysgwch holl gynhwysion y salsa guacamole mewn powlen, yna ei adael i sefyll.
  5. Pan fydd y byrgyrs yn barod, rhowch ddwy neu dair creisionen tortilla ar eu pen, ychydig o gaws wedi’I gratio a’u rhoi yn ôl dan y gril nes bydd y caws wedi toddi.
  6. Gweiniwch y byrgyrs ar ddarnau o letys iceberg gyda llwyaid fawr o guacamole a hufen sûr.
Share This