facebookPixel

Peli cig porc sbeislyd gyda saws arrabiata a phasta orzo

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • ½ tsili gwyrdd, heb hadau ac wedi’i dorri’n fân

Ar gyfer y saws:

  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • ½ tsili gwyrdd, heb hadau ac wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 400g tomatos tun wedi’u torri
  • 150ml stoc borc
  • 2 llwy de past tomatos heulsych
  • pinsiad o bowdr tsili
  • 150g pasta orzo neu siapiau pasta bach
  • Parmesan wedi’i gratio i weini

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
  2. Rhowch y briwgig, y garlleg a’r tsili mewn powlen fawr. Cymysgwch y cyfan yn dda a’u rholio i wneud 15 o beli.
  3. Cynheswch yr olew mewn sosban maint canolig. Ychwanegwch y winwnsyn a’r tsili a’u meddalu ychydig. Ychwanegwch weddill y cynhwysion (heblaw am y pasta a’r parmesan) a’u berwi.
  4. Rhowch y peli ar waelod dysgl gratin maint teulu. Taenwch y pasta ar ei ben. Arllwyswch y saws drosto a rholiwch y peli yn y saws yn ofalus er mwyn eu gorchuddio.
  5. Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am tua 40 munud, nes bydd y pasta yn feddal.
  6. Gweinwch y pasta a’r cig gyda pharmesan wedi’i gratio ar ei ben.
Share This