facebookPixel

Ragù ysgwydd porc wedi’i frwysio gyda papardelle gan Food Crush Diaries

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 900g ysgwydd porc heb asgwrn, ar dymheredd yr ystafell a’r braster wedi ei docio
  • 2½ llwy fwrdd olew hadau grawnwin
  • ¾ winwnsyn coch, wedi ei dorri’n giwbiau mân
  • 3 moronen, wedi eu plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 4 coesyn seleri, wedi eu tocio a’u torri’n giwbiau mân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
  • 3 sbrigyn o deim ffres
  • 3 sbrigyn o rosmari ffres
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 1 cwpan Cabernet Sauvignon sych
  • 1 jar o passata
  • pupur a halen i sesno
  • 1 ciwb stoc llysiau
  • pasta pappardelle ffres
  • olew olewydd
  • caws Parmesan ffres wedi ei ratio

Dull

Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r arbenigwraig bwyd @food_crush_diaries  – sef y blogiwr bwyd o Gaerdydd Sabrina wedi dod ynghyd i ddangos i chi pam y dylen ni ddewis porc lleol.

Dyma beth mae Sabrina yn ei ddweud am ei rysáit:

“Dyma rysáit syml ond sylweddol ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’r wythnos – mae pawb yn teimlo’n well ar ôl bwyta powlen o basta â saws tomato! Mae’r cyfnod hir o goginio’n golygu y bydd y porc yn suddlon ac yn frau, yn berffaith i’w rwygo’n hawdd a’i gymysgu gyda phasta ffres fydd yn toddi yn eich ceg. Gallwch rewi hwn ar gyfer gwneud pryd nos cyflym yn ystod yr wythnos.”



  1. Cynheswch y ffwrn i 150ºC / 130ºC ffan / Marc Nwy 3-4.
  2. Torrwch ysgwydd y porc yn 6 rhan gyfartal a thocio unrhyw fraster gormodol, cyn ei sesno â halen a phupur.
  3. Browniwch y porc mewn sosban ar yr hob am 3 munud ar bob ochr cyn tynnu’r cig allan a draenio’r braster sydd dros ben. Rhowch o’r neilltu.
  4. Ychwanegwch y garlleg, y winwns, y moron a’r seleri i’r badell (gallwch falu’r rhain mewn malwr trydan neu eu torri’n giwbiau mân).
  5. Cymysgwch y cyfan a’i goginio ar wres isel am 10 munud cyn ychwanegu’r gwin coch. Mudferwch ar wres canolig nes y gallwch weld fod y gwin wedi anweddu.
  6. Ychwanegwch y passata a’i fudferwi am 5 munud arall cyn ychwanegu’r teim ffres, y purée tomato a’r ciwb stoc. Ychwanegwch hanner cwpanaid o ddŵr a’i droi cyn ychwanegu’r porc yn ôl i mewn.
  7. Trosglwyddwch y cyfan i ddysgl caserol, rhowch y rhosmari ar y top a’i orchuddio â’r caead. Rhowch yn y ffwrn a’i frwysio am 2½ – 3 awr.
  8. Ar ôl iddo goginio, rhwygwch y porc gan ddefnyddio fforc.
  9. Berwch sosban fawr o ddŵr ac ychwanegwch y pappardelle, pinsiad o halen ac olew olewydd. Coginiwch yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn (2-3 munud fel arfer).
  10. I weini, draeniwch a rhannwch y pasta i bowlenni ac ychwanegu’r saws ragù, cyn gratio Parmesan a diferu olew olewydd ar ben y cyfan.
Share This