facebookPixel

Tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 650g o wddf neu ysgwydd porc, wedi’i deisio’n ddarnau mawr, gan dorri’r braster i ffwrdd
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2 llwy fwrdd o Ras el Hanout
  • 400g o domatos tun, wedi’u torri’n ddarnau
  • 600ml o stoc porc neu lysiau
  • 75g o syltanas
  • 75g o fricyll sych, wedi’u torri’n chwarteri
  • 400g o ffacbys tun, wedi’u draenio a’u rinsio
  • 100g o gwscws
  • 15g o naddion almonau wedi’u tostio
  • 1 oren, y croen a’r sudd
  • dyrnaid o ddail mintys ffres, wedi’u torri’n fras

Dull



  1. Yn addas i’w goginio’n araf ar yr hob neu yn y popty; os byddwch yn defnyddio’r popty, ewch ati i’w chynhesu ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 5.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y porc wedi’i ddeisio hyd nes y bydd wedi brownio. Codwch y cig o’r badell.
  3. Yn yr un badell ffrio, ffriwch y winwns a’r garlleg hyd nes y byddant wedi’u brownio’n ysgafn. Ychwanegwch y cig yn ôl at y badell.
  4. Ychwanegwch y sbeis gan ei droi am rai munudau. Yna, ychwanegwch y tomatos, y stoc, y syltanas a’r bricyll. Arllwyswch y cymysgedd i sosban â chaead os byddwch yn ei fudferwi ar yr hob, neu i ddysgl dal gwres os byddwch yn ei goginio yn y popty.
  5. Coginiwch am 1½-2 awr hyd nes y bydd y cig yn dyner.
  6. Codwch y caead ac ychwanegwch y cwscws, y ffacbys a’r oren. Parhewch i’w goginio hyd nes y bydd yr holl hylif wedi cael ei amsugno – tua 20 munud.
  7. Gweinwch gyda phinsiad o naddion almon.
Share This