facebookPixel

Koftas porc sbeislyd gyda couscous gemog

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o friwgig porc coch
  • 1 llwy fwrdd o gymysgedd sbeis Ras el Hanout
  • 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
  • 50g o ddatys, wedi’u torri
  • 25g o gnau pistasio, wedi’u torri
  • 2 sibolsyn, wedi’u torri’n fân
  • sgiwerau bambŵ, wedi’u gwlychu

Ar gyfer y couscous ‘gemog’:

  • 100g o couscous
  • 1 llwy fwrdd o gymysgedd sbeis Ras el Hanout
  • ¼ ciwcymbr, wedi’i giwbio
  • 2 sibolsyn, wedi’u sleisio
  • 20 llusen
  • 2 lwy fwrdd o hadau pomgranad
  • 2 lwy fwrdd o fintys ffres, wedi’i dorri
  • 2 lwy fwrdd o bersli ffres, wedi’i dorri
  • ychydig o olew olewydd

Dull



  1. Rhowch y briwgig porc, y sbeis, y garlleg, y datys, y cnau, y sibols a halen a phupur mewn powlen fawr.
  2. Rhannwch y gymysgedd yn 8 a’u mowldio’n siâp selsig. Rhowch y ‘selsig’ ar y sgiwerau bambŵ wedi’u gwlychu, gan eu gwasgu ychydig o amgylch y sgiwer.
  3. Gosodwch nhw ar blât, eu gorchuddio a’u rhoi yn yr oergell am 15-20 munud i oeri.
  4. Tynnwch nhw o’r oergell a’u rhoi o dan gril wedi’i gynhesu ymlaen llaw a’u coginio am ryw 12 munud nes maent yn euraidd ac wedi coginio drwyddynt.
  5. I wneud y couscous: rhowch y couscous a’r sbeis mewn powlen fawr a gorchuddiwch gydag oddeutu 200ml o ddŵr berwedig – gorchuddiwch y bowlen a’i gadael am ryw 5 munud nes bod yr hylif wedi’i amsugno. Ychwanegwch yr holl gynhwysion sy’n weddill a chyfuno’r cyfan yn dda. Ychwanegwch ychydig o halen a phupur a’r olew olewydd.
Share This