facebookPixel

Salad porc, ffa du ac oren

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 700g sleisys o fol porc, gyda’r grofen a’r braster ychwanegol wedi’u tynnu
  • 2 lwy fwrdd marmalêd oren heb groen
  • 2 lwy fwrdd saws soi
  • 45ml (3 llwy fwrdd) sudd oren
  • 4 llwy fwrdd saws ffa du
  • 2 seren anise
  • 3 deilen tsieineaidd, wedi’u torri’n fras
  • ½ letysen fach siâp calon, wedi’i thorri’n fras
  • 50g egin ffa
  • 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
  • llond llaw o ddail coriander ffres
  • 1 oren mawr, wedi’i blicio a’i dorri’n rhannau

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
  2. Cymysgwch y marmalêd, soi, sudd oren, saws ffa du a seren anise mewn powlen fawr.
  3. Ychwanegwch y sleisiau bol porc a’u gorchuddio yn y sudd. Rhowch orchudd dros y bowlen a’i rhoi i farinadu yn yr oergell am tua awr.
  4. Tynnwch y sleisiau bol porc o’r marinâd a’u rhoi mewn padell ffwrn, gorchuddiwch nhw â ffoil a’u coginio am tua 50 – 60 munud gan eu troi a’u brasteru’n gyson.
  5. Gadewch y bol porc i oeri rywfaint ac yna’i dorri’n ddarnau.
  6. Gweinwch y cig ar wely o ddail Tsieineaidd, letys, egin ffa, shibwns, dail coriander ffres a darnau o oren. Gweinwch gyda’r suddion coginio drosto.
Share This