facebookPixel

Cebabau porc sbeislyd roced gyda relish ffrwythau’r hydref

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 450g coes borc neu stêcs ysgwydd wedi’u torri’n giwbiau
  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 llwy fwrdd pâst harissa
  • 4-6 o bupurau bach o liwiau cymysg heb hadau ac wedi’u torri’n ddarnau
  • 1 corbwmpen fach wedi’i thorri’n ddarnau
  • sgiwerau pren, wedi’u socian mewn dŵr am hanner awr

Ar gyfer relish ffrwythau’r hydref:

  • 1 llwy de olew
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i blicio a’i dorri’n fân
  • 1 beren, wedi’i phlicio, ei chreiddio a’i sleisio
  • 2 lwy fwrdd jam ceirios coch neu jam coch tebyg
  • 30ml (2 lwy fwrdd) dŵr
  • 150g mwyar duon ffres neu wedi’u rhewi
  • pinsiad o bowdwr tsili
  • llond llaw o gyrens coch (dewisol)

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud 6 sgiwer.



  1. Cymysgwch yr olew olewydd a’r past harissa. Ychwanegwch y ciwbiau cig a’u taenu â’r gymysgedd past. Gadewch y cig i farinadu am 30 munud gan ei orchuddio a’i roi yn yr oergell.
  2. Rhowch y ciwbiau porc a’r pupurau ar sgiwerau pren.
  3. Rhowch y sgiwerau o dan gril sydd wedi’i gynhesu ymlaen llaw neu ar y barbeciw a choginiwch am tua 10-15 munud hyd nes bod y cig wedi’i goginio drwyddo ac yn frown, gan eu troi o bryd i’w gilydd.
  4. Gwnewch y Relish Ffrwythau’r Hydref: cynheswch yr olew mewn sosban fach, ychwanegwch y winwnsyn a’i goginio’n araf nes y bydd wedi meddalu. Ychwanegwch y cynhwysion sydd ar ôl a’u coginio am 5-10 munud arall, gan eu troi ar yr un pryd.
  5. Gweinwch y Cebabau Roced â thatws drwy’u crwyn, gyda darn o fenyn, llwyaid fawr o relish ffrwythau ac india corn wedi’i stemio.
Share This