facebookPixel

Cynffonau moch

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 3

Bydd angen

  • 6 selsigen borc
  • blawd
  • 2 ŵy
  • briwsion bara
  • 2 lwy fwrdd o berlysiau cymysg

Dull



  1. Cynheswch y popty i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
  2. Mewn sosban, dewch â dŵr i’r berw. Ychwanegwch 6 selsigen borc a berwch am 5-10 munud.
  3. Tynnwch y selsig o’r dŵr a rhowch bob un ar sgiwer.
  4. Gyda chyllell finiog, torrwch i lawr hyd y selsig gan droelli o’u hamgylch. Tynnwch y selsig ar hyd y sgiwer, o un pen i’r llall.
  5. Gorchuddiwch bob selsigen â blawd, ŵy a briwsion bara.
  6. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi a’u coginio am 20 munud.
  7. Gweiniwch gyda thatws stwnsh, pys a’ch hoff saws.
Share This