facebookPixel

Wyau selsig melynwy perffaith

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 selsigen porc drwchus
  • 200g mins porc heb lawer o fraster
  • 50g pwdin gwaed, wedi ei falu (dewisol)
  • 4 wy maes mawr, yn eu plisgyn
  • 1 wy mawr, wedi ei guro’n dda
  • ½ llwy de dail teim ffres
  • ½ llwy de saets sych
  • pinsiad o bupur du
  • 125g blawd plaen
  • 150g briwsion bara panko
  • pupur a halen
  • olew llysiau, i ffrio’n ddwfn

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud 4 wy selsig melynwy.



  1. Rhowch y pedwar wy, yn eu plisgyn, mewn sosban o ddŵr oer hallt a’u berwi. Berwch am 4 munud (am felynwy meddal) neu am 6 munud am felynwy caletach.
  2. Draeniwch yr wyau a’u trochi mewn powlen o ddŵr rhewllyd am o leiaf 20 munud (os wnewch chi gracio’r plisgyn ychydig wrth eu rhoi yn y dŵr byddan nhw’n haws i’w plicio wedyn).
  3. Pliciwch yr wyau’n ofalus o dan ddŵr oer o’r tap cyn eu sychu gyda phapur cegin.
  4. Tynnwch y llenwad allan o’r selsig ac ychwanegu’r mins a’r pwdin gwaed (os ydych chi’n ei ddefnyddio) a chymysgu’n dda. Ychwanegwch y teim, y saets a phupur du mâl ffres.
  5. Rhannwch y cig selsig yn bedwar a siapio pelen o gwmpas pob wy.
  6. Rhowch y blawd ar blat, ychwanegu bupur a halen a chymysgu’n dda. Gorchuddiwch bob wy yn y blawd, yna yn yr wy wedi ei guro, ac yn olaf rholiwch nhw yn y briwsion bara tan eu bod wedi eu gorchuddio’n llwyr.
  7. Cynheswch yr olew mewn padell ddofn, drom i 170ºC (neu tan fod briwsionyn bara yn hisian ac yn troi’n frown wrth gael ei ollwng yn yr olew).
  8. Rhowch bob wy selsig yn yr olew poeth yn ofalus a’u ffrio’n ddwfn am ryw 6-8 munud, tan eu bod yn euraidd ac yn grimp a bod y cig selsig wedi ei goginio’n llwyr.
  9. Tynnwch yr wyau selsig allan o’r olew’n ofalus gyda llwy dyllog a’u draenio ar bapur cegin.
  10. Gweinwch nhw ar unwaith gyda salad bychan i ddatgelu’r melynwy euraidd meddal, neu maen nhw’n wych yn oer fel byrbryd wrth fynd o le i le.
Share This