facebookPixel

Pasteiod porc bach gyda saets, afalau a seidr

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 1 afal bwyta, wedi’i greiddio a’i sleisio
  • halen a phupur
  • 2 lwy fwrdd o saets ffres, wedi’i dorri
  • 300ml o seidr neu sudd afal
  • 1-2 lwy fwrdd o ronnynnau grefi
  • 500g pecyn parod o grwst brau
  • blawd plaen ar gyfer rholio

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud tua 6-8 pasteiod.



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4-5.
  2. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a browniwch y briwgig a’r winwnsyn am tua 3-4 munud.
  3. Ychwanegwch yr afal, y halen a phupur, y saets a’r seidr a’u berwi. Ychwanegwch y gronynnau grefi er mwyn tewychu’r saws. Coginiwch am tua 8-10 munud.
  4. Torrwch y crwst yn 6-8 darn a’u rholio’n gylchoedd bras. Rhowch y darnau crwst ar ddarnau bach o bapur pobi anlynol. Cymerwch ddysgl ramecin/dysgl bastai/tun myffin dwfn a chodwch y crwst ar y papur a leiniwch y ddysgl/tun (papur i’r ddysgl) − gwthiwch y crwst i mewn i’r ymylon a’r ‘corneli’ er mwynleinio’r ddysgl/tun yn fras.
  5. Cymerwch lwyaid fawr o gymysgedd y briwgig gan lenwi pob dysgl/tun bron i’r ymyl.
  6. Plygwch y crwst drosodd i greu caead a phinsiwch yr ymylon i’w selio.
  7. Rhowch y pasteiod ar hambwrdd pobi. Coginiwch mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 25-30 munud nes y byddant yn frown euraidd. Gadewch iddynt oeri ychydig ac yna tynnwch y pasteiod allan o’r dysglau gan ddefnyddio ymylon y papur leinio − hawdd!
  8. Gweinwch yn gynnes neu’n oer fel byrbryd neu brif bryd.
Share This