facebookPixel

Pâté porc, pistasio a mango

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 225g iau neu afu mochyn wedi’i olchi a’i sychu a’i dorri’n ddarnau bach
  • 225g briwgig porc heb lawer o fraster
  • 12g menyn
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 2 glof o arlleg wedi’u torri
  • 4 deilen saets ffres wedi’u torri’n fras
  • 30ml (2 lwy fwrdd) sieri
  • halen a phupur
  • 2 lwy fwrdd siytni mango
  • 3 llwy fwrdd crème fraîche

Ar gyfer yr haen uchaf:

  • 4 lwy fwrdd siytni mango
  • 25g cnau pistasio heb blisgyn, wedi’u torri’n fras

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud tua 4 x 200g o jariau bach.



  1. Cynheswch fenyn ac olew mewn sosban. Ychwanegwch y winwnsyn a’r garlleg a’u coginio’n ysgafn.
  2. Ychwanegwch yr iau (neu’r afu), y briwgig porc a’r saets a choginio’r cig nes ei fod wedi brownio’n llwyr ac wedi’i goginio drwyddo am tua 4-5 munud. Ychwanegwch y sieri a gadewch i’r cymysgedd fyrlymu er mwyn llosgi’r alcohol.
  3. Ychwanegwch halen a phupur a siytni mango a gadewch i’r cymysgedd oeri.
  4. Ychwanegwch y crème fraiche a’i roi mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch y cyfan nes ei fod yn llyfn.
  5. Rhowch y pâté mewn dysglau bach neu ramecinau a llyfnhau’r haen uchaf.
  6. Cynheswch y siytni mango am tua munud yn y microdon er mwyn ei gynhesu a’i feddalu. Taenwch y cnau sydd wedi’u torri ar ben y pâté a thaenwch haen denau o siytni mango drosto.
  7. Rhowch orchudd dros y pate a’i roi yn yr oergell i oeri am tua 2-4 awr nes bod y pâté wedi caledu ac oeri drwyddo.
  8. Gweinwch y pate gyda bara rhyg wedi’i dostio.
Share This