facebookPixel

Tarten latis porc, pupur a chaws gafr

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 225g ffiled canol lwyn porc, wedi’i thorri’n giwbiau bach
  • 2 sleisen o facwn cefn wedi’u halltu a’u mygu, wedi’u torri
  • 500g crwst brau
  • halen a phupur
  • 100g jar o bupurau melys wedi’u grilio, eu draenio a’u torri’n fras
  • 1 afal bwyta, wedi’i greiddio a’i sleisio
  • 100g caws gafr
  • wy a llaeth i’w sgleinio

Dull

Mae’r rysait hon yn gweini hyd at 6-8 o bobl.



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
  2. Rholiwch ddwy ran o dair o’r crwst a leiniwch waelod ac ochrau tin fflan ag ymyl rhychiog 24cm.
  3. Taenwch y porc a’r cig moch ar y crwst gwaelod. Ychwanegwch y pupurau, a’r afal, a rhowch y caws gafr mewn darnau dros y gymysgedd.
  4. Rholiwch y crwst sydd ar ôl allan i wneud y latis a’i dorri yn stribedi tua 10 x 1cm.
  5. Gorchuddiwch y pastai â’r stribedi mewn patrwm delltog a gwasgwch ochrau’r stribedi. Brwsiwch ag wy a llaeth i’w sgleinio.
  6. Rhowch y pastai mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw a choginiwch am tua 30 munud nes bod y crwst yn euraidd.
  7. Gadewch iddo oeri rhywfaint cyn ei dorri – mae’n flasus yn oer neu’n boeth!
Share This