facebookPixel

Pinwheels selsig

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 3

Bydd angen

  • 1 pecyn o grwst pwff wedi’i rowlio’n barod
  • llenwad o 3-4 selsig drwchus porc
  • 2 lwy fwrdd siwtni
  • 50g gaws Cheddar wedi’i gratio
  • ychydig o ddŵr neu laeth

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 pinwheel.



  1. Cynheswch y popty i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
  2. Rhowch haen denau o’r llenwad selsig ar wyneb y crwst gan adael tua 1 cm o grwst ar yr ochrau.
  3. Taenwch y siwtni ar y llenwad selsig, yna rhowch gaws drosto.
  4. Rowliwch y crwst yn dynn, gan frwsio ychydig o ddŵr neu laeth ar yr ymyl allanol i sicrhau fod y crwst yn glynu.
  5. Gan ddefnyddio cyllell finiog torrwch y crwst yn 12 cylch tua 1 cm o drwch. Rhowch nhw ar yr hambwrdd, a gadael ychydig o le rhyngddynt gan y bydd y crwst yn ehangu wrth goginio.
  6. Rhowch nhw yn y popty poeth am tua 15-20 munud nes bod y crwst wedi coginio ac yn euraidd ei liw.
Share This