facebookPixel

Stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stecen goch lwyn porc
  • 1 llwy de grawn pupur cymysg, wedi eu gwasgu
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 ewin garlleg, wedi’i gwasgu
  • 100g madarch cymysg
  • 5 llwy fwrdd (75ml) crème fraîche
  • 1 llwy fwrdd basil ffres, wedi ei rhwygo
  • 1 llwy fwrdd dil ffres, wedi ei rhwygo

Dull



  1. Gwasgwch y grawn pupur a gorchuddiwch y stêcs.
  2. Twymwch radell neu badell ffrio a choginiwch y stêcs am 2–4 munud.
  3. Ychwanegwch y garlleg a’r madarch a choginiwch am 4–5 munud arall.
  4. Ychwanegwch y crème fraîche, basil a’r dil.
  5. Twymwch yn araf am 1-2 munud.
  6. Gweinwch gyda sbigoglys a thatws wedi ffrio.
Share This