facebookPixel

Pastai hufennog porc, cennin a madarch

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 650g stêcs lwyn neu lwyn ganol porc, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • Talp bychan o fenyn
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri
  • 1 genhinen, wedi’i sleisio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • ½ llwy de saets neu deim sych
  • 250g madarch (castan neu fotwm)
  • 1 llwy fwrdd blawd plaen
  • 200ml stoc cyw iâr
  • 150ml hufen dwbl
  • 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
  • Dalen o grwst pwff wedi’i rolio’n barod
  • 1 wy bach, wedi’i guro
  • Joch o laeth

Dull



  1. Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6 .
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y porc nes ei fod yn frown braf, yna tynnwch o’r badell.
  3. Yn yr un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y genhinen a’r garlleg a’u ffrio am ychydig funudau i’w lliwio. Ychwanegwch y menyn, madarch, a mwy o olew os oes angen, a ffriwch am ychydig funudau.
  4. Dychwelwch y porc i’r badell, ac ychwanegwch y perlysiau sych a’r blawd. Trowch am ychydig funudau ac yna ychwanegwch y stoc yn raddol a’i droi drwyddo. Ychwanegwch yr hufen a’r mwstard a dod â’r cyfan i’r berw, a’i fudferwi’n ysgafn am 20 munud.
  5. Arllwyswch y cymysgedd i ddysgl bastai ac yna rhowch y crwst pwff ar ei ben. Trimiwch y crwst. Curwch yr wy gydag ychydig o laeth a’i ddefnyddio i frwsio dros y toes.
  6. Rhowch yn y popty am tua 25 munud nes bod y toes yn euraidd.
  7. Gweinwch gyda thatws stwnsh a llysiau gwyrdd.
Share This