facebookPixel

Risotto porc, madarch ac asbaragws

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 35 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 225g o ffiled porc coch, wedi ei dorri’n stribedi tenau
  • 1 llwyaid de olew
  • 1 nionyn wedi’i dorri
  • 150g reis risotto (arborio)
  • 50g fadarch cymysg
  • pupur du
  • 100g o asbaragws, wedi’u torri’n ddarnau mawr
  • dail roced
  • 600ml o stoc porc

Dull



  1. Cynheswch 1 llwyaid de o olew mewn sosban a ffrio’r porc gyda’r nionyn a’r reis am 2-3 munud.
  2. Ychwanegwch y madarch cymysg a’r stoc, a’i godi i’r berw, ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi’n araf am oddeutu 30 munud neu nes bod y reis yn barod a’r holl hylif wedi’i amsugno. (Ychwanegwch fymryn rhagor o stoc os dymunwch i gael y trwch iawn).
  3. Ychwanegwch yr asbaragws a rhowch ddail roced drosto a’i weini. Gweinwch gyda chwlffyn o fara crystiog os oes angen.
Share This