facebookPixel

Risotto porc gyda phwdin gwaed, cennin a phys

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 35 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 225g o ganol lwyn ffiled porc wedi’i dorri’n sleisys tenau
  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 2 genhinen fach, wedi’u golchi a’u sleisio’n denau
  • 225g o reis risotto arborio
  • pupur du
  • 750-900ml stoc porc
  • 75g o bwdin gwaed wedi’i dorri’n giwbiau bach
  • 150g o bys wedi rhewi
  • 1 llwy fwrdd o fasil a mintys ffres, wedi’u torri’n fras
  • caws Parmesan wedi’i gratio

Dull



  1. Cynheswch ychydig o olew mewn sosban fawr, ychwanegwch y sleisys porc, garlleg a chennin a choginio am tua 2-3 munud.
  2. Pan fyddant wedi brownio ychwanegwch y reis, yr halen a phupur a chymysgu’r cyfan.
  3. Pan fydd y cyfan wedi cymysgu’n dda ychwanegwch y rhan fwyaf o’r stoc poeth a chymysgu’n dda – cadwch ychydig o’r stoc rhag i’r risotto sychu gormod yn nes ymlaen.
  4. Rhowch gaead ar y sosban a gadael y risotto i ffrwtian am tua 15-20 munud. Gallwch ychwanegu’r stoc ychwanegol os yw’r risotto yn mynd yn rhy sych.
  5. Pan fydd y risotto wedi coginio ychwanegwch y pwdin gwaed a’r pys a chynhesu’r cyfan drwyddo.
  6. Rhowch berlysiau ffres a chaws parmesan ar ei ben a’i weini.
Share This