facebookPixel

Lwyn porc rhost gydag afalau bach pob wedi’u stwffio

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.8kg darn lwyn porc, y croen wedi’i grafu
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Halen môr
  • 1 foronen, wedi’i haneru ar ei lled
  • 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n dalpiau
  • Dail saets
  • Ar gyfer yr afalau wedi’u stwffio:
  • 6 afal bwyta coch cadarn
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Talp o fenyn
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n fân
  • 4 sleisen o gig moch rhesog, wedi’u torri
  • 40g bricyll sych, wedi’u torri’n fân
  • 1 llwy de saets sych
  • ½ llwy de sinamon
  • Pupur a halen

Dull



  1. Tynnwch y porc o’r oergell a gadewch iddo gyrraedd tymheredd yr ystafell. Sychwch wyneb y porc gyda phapur cegin.
  2. Cynheswch y popty i 230˚C / 210˚C ffan / Nwy 8 .
  3. Rhowch yr haneri moron, y darnau nionyn a’r dail saets mewn tun rhostio a gosodwch y porc ar y top. Rhwbiwch yr olew dros wyneb y porc a’i ysgeintio â halen môr.
  4. Rhowch yn y popty am 20 munud yna gostyngwch y tymheredd i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 a choginiwch am weddill yr amser (tua 1 awr 30 munud).
  5. Tra bod y porc yn coginio, paratowch yr afalau. Sleisiwch dop yr afalau tua 1cm o’r top a chrafu’n ysgafn o amgylch canol yr afal (i’w atal rhag byrstio). Tynnwch graidd yr afal allan.
  6. Gwnewch y llenwad trwy gynhesu’r olew a’r menyn a ffrio’r cig moch a’r winwnsyn yn ysgafn am ychydig funudau nes eu bod yn frown ysgafn. Ychwanegwch y saets, sinamon, bricyll a sesnin, a choginiwch am 5 munud arall.
  7. Rhowch yr afalau mewn dysgl popty a stwffiwch y canol gyda’r llenwad. Rhowch ychydig ar ben pob un ac yna rhowch y caeadau yn ôl ymlaen, neu rhowch nhw yn y tun o amgylch y darn porc am 35-40 munud olaf yr amser coginio.
  8. Gorffwyswch y porc cyn ei dorri.
Share This