facebookPixel

Lwynau canol porc crimp gyda grefi port a llugaeron

  • Amser paratoi 35 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2 lwyn ganol porc wedi ei thocio
  • 12 tafell cig moch rhesog

Ar gyfer y rhwbiad:

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 8 deilen saets, wedi eu torri’n fân, neu ½ llwy de saets sych
  • 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
  • ½ llwy de pupur du
  • ½ llwy de pupur Jamaica

Ar gyfer y stwffin:

  • 50g datys wedi eu torri
  • 25g syltanas
  • 3 llwy fwrdd port
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 25g menyn
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei dorri’n fân
  • ½ llwy de saets sych
  • pupur a halen
  • 50g llugaeron ffres, wedi eu torri
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown (ddim yn hanfodol)
  • 1 afal bwyta, wedi ei ratio
  • 25g cnau pîn
  • 120g briwsion bara, cyflawn neu wyn
  • 1 wy bychan, wedi ei guro

Ar gyfer y grefi port a llugaeron:

  • 20g menyn
  • 2 lwy fwrdd blawd plaen
  • 250ml stoc porc neu gyw iâr
  • 50ml port
  • 25g llugaeron ffres
  • 2 lwy fwrdd saws llugaeron
  • pinsiad o bupur Jamaica
  • pupur a halen

Dull

Mae’r pryd hwn yn bwydo 6-8 person, ond os ydych chi’n coginio i lai o bobl peidiwch â phoeni – mae’n gwneud sbarion gwych y gellir eu haildwymo neu eu bwyta’n oer. Gellir ei baratoi y noson gynt hyd yn oed, yn barod i’w goginio y diwrnod canlynol, sy’n golygu ei fod yn ddewis gwych ar gyfer cinio Nadolig yn lle twrci.



  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y rhwbiad ac yna ei rwbio dros y lwynau canol. Gadewch i orffwys am o leiaf 20 munud.
  2. Gwnewch y stwffin. Rhowch y datys a’r syltanas mewn powlen fechan ac ychwanegu’r port, cyn ei adael i orffwys am 10 munud.
  3. Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
  4. Cynheswch yr olew ac ychwanegu’r menyn a’r winwnsyn, cyn ei ffrio’n ysgafn nes ei fod yn feddal.
  5. Cymysgwch holl gynhwysion y stwffin sy’n weddill cyn eu gadael i oeri.
  6. Rhowch y cig moch ar fwrdd a gan ddefnyddio cefn cyllell, ymestynwch y tafelli ychydig heb eu rhwygo.
  7. Gyda chyllell finiog gwnewch hollt ddofn ym mhob lwyn ganol, gan agor pob lwyn ar ei hyd ond heb dorri’r holl ffordd trwyddi.
  8. Llenwch y ddwy lwyn ganol gyda’r stwffin, yna defnyddiwch y tafelli o gig moch i lapio a gorchuddio’r lwyn ganol gyfan.
  9. Rhowch y lwynau canol ar hambwrdd pobi a’u coginio am ryw 25 – 30 munud tan bod y porc wedi ei goginio a’r cig moch yn grimp ac yn euraidd. Gorchuddiwch y cyfan yn ysgafn gyda ffoil a’i adael i orffwys am 10 munud cyn sleisio’r lwynau canol yn sleisys trwchus i’w gweini.
  10. I wneud y grefi, allwyswch unrhyw suddion sydd wedi dod allan o’r porc i mewn i jwg. Toddwch y menyn, ychwanegwch y blawd a’u cymysgu i wneud roux. Ychwanegwch y stoc ac unrhyw suddion cig sydd dros ben yn raddol a’u berwi’n ysgafn – gan barhau i droi’r gymysgedd o hyd. Ychwanegwch y port a’i ferwi cyn ychwanegu gweddill y cynhwysion. Berwch eto, ychwanewch halen a phupur at eich dant, cyn ei weini gyda’r lwyn ganol wedi ei sleisio.
Share This