facebookPixel

Lwyn porc wedi rhostio gyda stwffin dwyreiniol

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg o borc heb fawr o fraster (coes neu ysgwydd)
  • halen
  • olew

Ar gyfer y stwffin:

  • 4 selsigen borc, gyda’r croen wedi’i hollti a’r cig selsig wedi’i dynnu (tua 200g)
  • 1 llwy fwrdd o fêl
  • 2 lwy de o sbeis Tsieineaidd
  • 2 sibolsyn, wedi’u sleisio
  • 1 eirinen, heb y garreg ac wedi’i thorri’n fân
  • 50g o friwsion bara

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4. Pwyswch y darn o gig er mwyn i chi weithio allan faint o amser sydd ei angen ar y cig yn y popty: 30 munud am bob 450g / ½ kg, + 30 munud (ar gyfer cymhedrol).
  2. Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y stwffin mewn powlen fawr a’u cymysgu’n dda.
  3. Sychwch du allan y cig a’i ricio’n dda gyda chyllell finiog.
  4. Yn ofalus, gwnewch doriad mawr yn narn mwyaf brasterog y cig. Rhowch y stwffin i mewn i’r twll – gallwch rholio unrhyw stwffin sydd dros ben yn beli a’u coginio o amgylch y cig am tua 30 munud.
  5. Rhowch rywfaint o olew a halen ar y cig a’u rhwbio i mewn i’r braster. Gosodwch y cig ar resel mewn tun rhostio a’i rostio’n agored mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am yr amser a amcangyfrifwyd.
  6. Gweinwch gyda thatws melys stwnsh a pak choi crensiog wedi’i ffrïo.
Share This