facebookPixel

Lwyn porc wedi’i rhostio gyda stwffin jin eirin a chnau ffrengig

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg darn lwyn porc ar yr asgwrn heb lawer o fraster
  • 50g llugaeron sych
  • 60ml (4 llwy fwrdd) jin eirin
  • 50g cnau ffrengig

Ar gyfer stwffin:

  • 450g cig selsig porc (tua 6 selsig)
  • 100g briwsion bara – wedi’u gwneud o hen dorth fara neu dorth ffrwythau
  • pinsiad o sbeisys cymysg
  • pinsiad o sinamon

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Rhowch y llugaeron mewn powlen fach gyda’r jin eirin a gadewch iddynt fwydo am 30-60 o funudau.
  3. Sychwch y tu allan i’r cig a’i sgorio’n ddwfn â chyllell finiog.
  4. Rhowch y cig selsig, y briwsion bara, y sbeisys a’r cnau Ffrengig mewn powlen. Cymysgwch hwy’n dda. Ychwanegwch y llugaeron i’r stwffin a’u cymysgu’n dda.
  5. Yn ofalus, gwnewch doriad dwfn, mawr yn y darn o’r cig sydd â’r rhan fwyaf o fraster arno (nid drwy lygad y cig ond tuag at yr ymyl lle mae llawer o fraster yn y cig).
  6. Gwthiwch y stwffin i mewn i’r twll hwn. Gallwch rolio unrhyw stwffin sydd ar ôl yn beli mawr a’u coginio ynghyd â’r cig am tua 20 munud.
  7. Pwyswch y cig sydd wedi’i stwffio a chyfrifwch yr amser coginio: 30 munud am bob 450g / ½kg, a 30 munud ychwanegol (canolig).
  8. Brwsiwch y cig ag olew, ychwanegwch binsiad o halen a’u rhwbio i mewn i’r braster. Rhowch y cig ar resel mewn tun rhostio a’i rostio heb gaead mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw, am yr amser a gyfrifwyd.
  9. Tynnwch y cig o’r ffwrn a’i adael i sefyll am tua 10 munud cyn ei dorri.
  10. Cadwch y suddion coginio i wneud y grefi ac ychwanegwch ychydig o jin eirin i’r grefi wrth ei goginio.
  11. Gweinwch y cyfan gyda’r peli stwffin (os gwnaethoch rai gyda’r stwffin a oedd yn weddill), pannas wedi’u rhostio a’ch hoff drimins traddodiadol!
Share This